Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau i ddarparu gwasanaethau rheng-flaen sy’n mynd i’r afael â materion megis llety brys, iechyd a chamddefnyddio sylweddau.
Mae’r Gwasanaeth Allgymorth ar waith 7 diwrnod yr wythnos:
-
Dydd Llun a dydd Gwener 6.30am-9pm
-
Dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau 6:30am – 12pm
Mae’r penwythnosau yn hyblyg ac yn dibynnu ar y galw.
Weekends are flexing depending on need.
Gallwch ddod o hyd i ni yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai neu stopiwch ni ar y stryd pan fyddwn ni allan.
Byddwn ni’n eich helpu i:
-
gwblhau cais digartrefedd,
-
dod o hyd i lety addas
-
manteisio ar ofal iechyd a chyngor ar fudd-daliadau a thai, a’ch
-
helpu i fanteisio ar gymorth arall yn ôl y gofyn.
Byddwn yn rhoi cymorth drwy:
- fentora cymheiriaid (cyswllt un wrth un gyda rhywun sydd â phrofiad o gysgu ar y stryd),
- eiriolaeth (help gyda materion cyfreithiol) a’ch
- helpu i ymgysylltu a gweithgareddau.
Gallwn hefyd helpu os oes gennych broblemau megis camddefnyddio sylweddau neu anawsterau iechyd meddwl.
Os nad ydych chi o Gaerdydd, gallwn ni eich helpu chi i ailgysylltu â’ch cymuned leol.
Gallwn eich helpu i fanteisio ar amrywiaeth eang o lety dros dro, o hosteli i lety â chymorth sy’n benodol i’ch anghenion.
Gallwn hefyd eich helpu i ddod o hyd i lety parhaol mewn tai cymdeithasol a phreifat.
Mae gennym nifer fawr o leoedd drwy ein Porth llety:
-
61 o unedau llety brys
- 260 o unedau hostel
- 330 o unedau llety â chymorth
Mae’r Project Bws yn cynnig:
-
mynediad at ofal a chymorth brys,
-
bwyd a diodydd poeth, a
-
mynediad at lety brys.
Dydd Llun - ddydd Iau 6:30am - 9pm
Dydd Sul 5.30pm - 8pm
Mae Project Bws Byddin yr Iachawdwriaeth yn parcio y tu allan i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae’r gwasanaeth dyddiol hwn yn mynd i leoliadau adnabyddus o 7am i weld a oes pobl sy’n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd a’r dalgylch.
Mae’r tîm yn rhoi cymorth a chyngor yn ogystal â:
- Brecwast, diodydd poeth, sachau cysgu, dillad cynnes, deunyddiau ymolchi a chymorth i ddod o hyd i ddarpariaeth leol arall drwy gydol y dydd a’r nos.
- Mynediad at wasanaethau arbenigol, gan gynnwys cyngor ar dai, llety â chymorth, cyngor ar fudd-daliadau, gofal iechyd ac atgyfeiriadau at ganolfannau camddefnyddio sylweddau.
Mae’r ganolfan ar agor bob dydd o’r flwyddyn yn cynnig cymorth, cyngor a datblygiad arbenigol. Mae’r ganolfan yn cynnig:
-
prydau am ddim ac am gost isel
-
dillad
am ddim,
-
cyfleusterau golchi dillad, a
-
chyfleusterau glendid personol.
Adeiladau Huggard,
Hansen Street,
Caerdydd,
CF10 5DW
Mae amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd i bobl ddigartref, gan gynnwys y rhai sy’n aros mewn llety dros dro, ar gael yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae gwasanaethau’n cynnwys:
-
Clinig gyda nyrs
-
Ymgynghoriadau ar gyfer diagnosis, triniaeth a thystysgrifau meddygol.
-
Profion iechyd gan gynnwys profion pwysau gwaed, asthma, diabetes, pwysau ac wrin.
-
Gwasanaethau atal cenhedlu, gwasanaethau mamolaeth meddygol a gwasanaethau llawdriniaeth man.
- Hyrwyddo iechyd rhywiol, brechiadau, hyrwyddo iechyd a gofal iechyd ataliol.
Nid oes angen gwneud apwyntiad.
Mae’r gwasanaeth ar gael o ddydd Llun - ddydd Gwener 9.30am – 11.30am.Mae’r Tim Aml-ddisgyblaethol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys:
-
Cymorth gyda chamddefnyddio sylweddau,
-
Gweithwyr iechyd meddwl,
-
Nyrs,
-
Cwnsela,
-
Eiriolwyr digartrefedd sy’n gallu helpu gyda materion cyfreithiol, a
-
Mentoriaid cymheiriaid (pobl sydd wedi bod trwy brofiad tebyg ac sy’n gallu cynnig help a chefnogaeth).
Mae Bugeiliaid y Stryd yn wirfoddolwyr hyfforddedig o wahanol eglwysi sy’n gofalu am bobl sydd allan ar stryd, yn gwrando arnyn nhw ac yn eu helpu.
Darperir y gwasanaeth bob nos Wener a nos Sadwrn o 10am i 4am yng Nghanol y Ddinas.