Gallwch roi gwybod am wrychoedd sydd wedi gordyfu mewn man cyhoeddus, gan gynnwys:
- llwybrau cyhoeddus,
- parciau, neu
- arwyddion ffyrdd sydd wedi’u gorchuddio.
Rhoi gwybod am rywbeth
Rhowch wybod i ni am broblem gyda choeden mewn parc neu fan gwyrdd.
Problem gyda gwrych uchel ar eiddo cyfagos
Os oes gennych broblem gyda gwrych uchel cyfagos, cysylltwch â'ch cymydog i siarad â nhw a cheisio datrys y mater eich hun.
Ewch i
GOV.UK am ragor o gyngor.
Gwneud ymholiad
Gallwch gysylltu â C2C ar 029 2087 2087 neu anfon e-bost atom yn
RheoliGwastraff@caerdydd.gov.uk am fwy o gyngor ar ôl rhoi cynnig ar bopeth posibl i ddatrys y broblem.
Cyn gwneud ymholiad
Cyn gwneud ymholiad am broblem gwrych neu goeden sydd wedi gordyfu gyda'ch cymydog:
- siaradwch â'ch cymydog wyneb yn wyneb,
- cysylltwch â'ch cymydog yn ysgrifenedig, a
- rhowch wybod iddynt am eich bwriad i wneud ymholiad gyda ni.
Cadwch gopïau o lythyrau a anfonwch a dyddiadur o sgyrsiau a gawsoch gyda'ch cymydog.
Fel dewis olaf ar ôl rhoi cynnig ar bopeth i ddatrys y broblem, efallai y byddwn yn argymell i chi wneud cwyn yn erbyn eich cymydog os yw'ch achos yn bodloni'r meini prawf derbyn.
Cost gwneud cwyn yw £330 na ellir ei ad-dalu os caiff ei dderbyn.
Er mwyn i'r gŵyn gael ei derbyn, rhaid i'r gwrych neu'r goeden fod:
- ar dir sy'n eiddo i rywun heblaw'r achwynydd,
- yn effeithio ar eiddo domestig,
- yn effeithio ar fwynhad rhesymol yr eiddo domestig,
- yn cael ei godi gan berchennog neu feddiannydd yr eiddo hwnnw,
- yn cynnwys llinell o 2 neu fwy o goed neu lwyni,
- gan fwyaf yn fytholwyrdd neu’n rhannol fytholwyrdd
- dros 2 fetr o uchder o lefel y ddaear, ac
- yn gweithredu fel rhwystr i olau neu fynediad.
Byddwn wedyn yn asesu eich cwyn ac yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi os yw'n bodloni'r meini prawf ar gyfer cwyn ffurfiol.