Yn dilyn cyfnod prawf casgliadau ailgylchu ar wahân, rydym yn cyflwyno casgliadau ailgylchu ar wahân ledled y ddinas yn 2024.
Canfyddwch yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu o’r cyfnod prawf a pham mae ailgylchu ar wahân yn dda i Gaerdydd.
Newidiodd 36,000 o eiddo i gasgliadau ailgylchu ar wahân ym mis Chwefror 2024.
Byddwn yn cysylltu â chi pan fydd eich eiddo yn symud i gasgliadau ailgylchu ar wahân a byddwn yn dosbarthu’r cynwysyddion newydd ynghyd â thaflen wybodaeth.
Os oes gennych fagiau gwyrdd dros ben unwaith y bydd casgliadau ailgylchu ar wahân yn dechrau, rhowch nhw i rywun sy'n dal i fod ar gasgliadau bagiau gwyrdd neu gallwch ddod o hyd i ddefnydd arall ar eu cyfer.
Unwaith mae’r casgliadau ar wahân yn dechrau ar gyfer eich eiddo chi, ni fyddwn yn casglu bagiau ailgylchu gwyrdd wedyn ac ni fyddant ar gael i'w casglu gan ein stocwyr.
Os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau gyda chasgliadau biniau ailgylchu cymunedol, ni fydd y newid hwn yn effeithio arnoch chi.
Defnyddio eich sachau a’ch cadi newydd
Cadi glas
Ar gyfer eich:
Byddwn yn casglu eich cadi glas bob
pythefnos ar yr un wythnos â'ch gwastraff cyffredinol.
Sach goch y gellir ei hailddefnyddio
Ar gyfer eich:
- caniau metel, tuniau, erosolau a ffoil,
- poteli, potiau, tybiau, a hambyrddau plastig, a
- chartonau bwyd a diod, fel Tetra Pak.
Byddwn yn casglu eich sach goch bob wythnos.
Sach las y gellir ei hailddefnyddio
Ar gyfer eich:
Byddwn yn casglu eich sach las bob wythnos.
Bydd y sachau y tu mewn i'r cadi.
Mae’r sach goch ar gyfer cynwysyddion, fel poteli plastig, tybiau a hambyrddau a chaniau neu duniau.
Mae’r eitemau y gallwch eu rhoi yn y sach goch yn cynnwys:
- poteli pethau ymolchi plastig, fel siampŵ a jel cawod,
- poteli glanhau plastig, fel poteli cannydd a chwistrellwyr,
- poteli diodydd plastig, fel poteli llaeth, poteli dŵr a photeli diodydd meddal,
- cynwysyddion plastig, fel cynwysyddion ffrwythau, potiau iogwrt a phecynnau cacennau
- cartonau a chaeadau cludfwyd plastig,
- aerosolau, fel chwistrelli diaroglyddion,
- caniau diodydd metel, fel caniau cwrw a diodydd meddal
- tuniau bwyd metel, fel tun ffa a chawl,
- Tetra Pak, a
- ffoil a chartonau ffoil.
Mae’r eitemau sydd ddim yn mynd yn y sach goch yn cynnwys:
- bagiau siopa plastig,
- plastigion meddal, fel clingfilm neu ffilm blastig, deunydd lapio caws neu fagiau bara,
- pecynnau creision,
- pacedi bwyd anifeiliaid anwes,
- pecynnau blister plastig, fel ar gyfer meddyginiaethau,
- brwsys dannedd neu diwbiau past dannedd,
- raseli neu lafnau raseli,
- tanwyr nwy gwag,
- tuniau nwy gwag,
- plastigion caled, fel teganau plant,
- potiau planhigion,
- cynwysyddion Tupperware.
Mae’r eitemau y gallwch eu rhoi yn y sach las yn cynnwys:
- cerdyn a bocsys cardbord,
- cartonau wyau,
- tiwbiau papur tŷ bach,
- bocsys grawnfwyd,
- bocsys past dannedd,
- papur, papurau newydd a chylchgronau,
- amlenni a llythyrau,
- papur argraffydd a phapur wedi'i rwygo.
Gellir rhoi carpion papur mewn bag ar wahân a'i roi ar dop y sach glas i'w gasglu.
Mae’r eitemau sydd ddim yn mynd yn y sach las yn cynnwys:
- cartonau bwyd a diod, fel Tetra Pak,
- polystyren,
- ffilm neu becynnu plastig,
- papur wal,
- papur lapio, neu
- hancesi, tywelion papur a rholiau cegin.
Mae’r eitemau y gallwch eu rhoi yn y cadi glas yn cynnwys:
- poteli gwydr fel poteli cwrw, poteli gwin a photeli diodydd ysgafn, a
- jariau gwydr, fel jariau saws a bwyd babi.
Mae’r eitemau sydd ddim yn mynd yn y cadi glas yn cynnwys:
- cerameg neu tsieina,
- gwydrau yfed,
- gwydr wedi torri,
- paneli gwydr,
- bylbiau golau, neu
- Pyrex.
Storio a didoli eich ailgylchu y tu mewn
Efallai y byddwch eisiau biniau ar wahân yn eich cegin i wahanu eich ailgylchu. Neu gallwch gymysgu’r eitemau ailgylchadwy yn eich cegin ac yna didoli’r cyfan i'r sachau neu'r cadi yn rheolaidd, neu cyn y diwrnod casglu.
Os nad ydych yn cynhyrchu llawer o ailgylchu, neu os oes gennych bryderon am storio neu drin y sachau, mae rhai llai ar gael. Gellir casglu'r rhain o rai Hybiau.
Gallwch gasglu sachau llai o’r lleoliadau canlynol:
- Hyb Trelái a Chaerau
-
Hyb Grangetown
-
Hyb Gabalfa ac Ystum Taf
-
Hyb y Powerhouse
-
Hyb Radur
-
Hyb Rhiwbeina
-
Hyb y Star
-
Hyb Llaneirwg
Sachau a chadi newydd ac ychwanegol
Os oes angen sach ychwanegol neu newydd arnoch, gallwch eu casglu o rai Hybiau.
Os na allwch fynd i’r Hyb, gallwch archebu sach ar-lein.
Os oes angen cadi ychwanegol neu newydd arnoch, gallwch archebu ar-lein.
Os byddwch yn rhoi ailgylchu allan nad yw yn un o'ch cynwysyddion, ni fyddwn yn ei gasglu.
Dim ond ar ôl i'ch ardal symud i'r casgliadau newydd y byddwch yn gallu casglu sachau a chadis a'u harchebu ar-lein.
Beth i'w wneud ar y diwrnod casglu
Bydd angen i chi wahanu'ch ailgylchu i'ch cynwysyddion newydd.
Peidiwch â gorlenwi eich sachau. Gallwch gael sachau ychwanegol os oes eu hangen arnoch.
Rhaid i chi sicrhau bod y cynwysyddion ar gau gan ddefnyddio'r Velcro ar y fflap a'r ddolen.
Rhaid i'ch gwastraff gael ei roi allan i'w gasglu erbyn 6am ar ddiwrnod eich casgliad, neu ddim cynt na 4:30pm y diwrnod cyn eich casgliad.
Os ydych yn cael cymorth i roi eich biniau a'ch bagiau allan, nid oes angen i chi wneud cais eto. Nid oes angen sticeri arnoch ar gyfer eich sachau a'ch cadi newydd.
I gasglu eich ailgylchu, rydym yn defnyddio cerbydau gyda dwy adran ar wahân. Mae'r ailgylchu o'r sach las yn mynd i un ochr y cerbyd ac mae'r ailgylchu o'r sach goch yn mynd i'r llall. Mae gennym gerbyd gwahanol i gasglu'r jariau a'r poteli gwydr.
Rydym wedi cael rhai problemau gyda'r cerbydau newydd ac, mewn rhai achosion, rydym wedi gorfod defnyddio cerbydau gwastraff cyffredinol i gasglu eich ailgylchu. Gallwn eich sicrhau nad yw hyn wedi cael effaith negyddol ar ansawdd y deunyddiau ailgylchu rydych chi wedi'u gwahanu i'w casglu.
Cysylltu â ni
Os nad ydych wedi derbyn eich sachau a'ch cadi newydd, gallwch
archebu’r sachau a'r cadis ar-lein. Byddwn yn eu dosbarthu cyn gynted â phosibl. Wrth i chi aros, defnyddiwch unrhyw fath arall o sachau. Er enghraifft, bag siopa amldro. Peidiwch â defnyddio bagiau ailgylchu gwyrdd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newidiadau ailgylchu neu os oes angen help arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth newydd, llenwch y ffurflen ar-lein.