Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyfrifoldebau trigolion

​Os ydych wedi symud i gasgliadau ailgylchu ar wahân, ni fyddwn bellach yn casglu bagiau gwyrdd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am gasgliadau ailgylchu ar wahân​.

​​Gallech dderbyn sticer pinc ar gyfer: 

  • ​rhoi eitemau anghywir yn eich bin neu'ch sach, neu
  • Os yw eich bin neu'ch sach yn rhy drwm i'n criwiau eu symud yn ddiogel, ac yn wag.

 
Ffotograff o sticer pinc ar gyfer cynllun ailgylchu
 

Cynllun Sticer Pinc

Bydd ein cynllun sticer pinc yn rhoi help ychwanegol gan roi gwybod i chi pan fyddwch wedi rhoi eitem anghywir yn eich gwastraff ailgylchu. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gwella ansawdd ailgylchu Caerdydd ac yn ein helpu ni yn ein huchelgais i sicrhau cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2025. 

 
​Bydd ein criwiau casglu yn gwirio cynnwys bagiau a biniau ar gyfer eitemau anghywir y tu allan i eiddo unigol. Bydd criwiau'n gwneud nodyn o unrhyw broblemau ac yn rhoi sticer pinc ar eich gwastraff ailgylchu neu wastraff gardd.


Gwastraff gardd

Mae tua 6% o'r gwastraff gardd rydym yn ei gasglu, yn cynnwys eitemau anghywir. Mae hyn yn costio £140,000 y flwyddyn i’w lanhau, er mwyn sicrhau y gallwn ei droi'n gompost.

 
Y prif halogyddion mewn biniau gwyrdd a sachau gwyn amldro yw:

  • Asbestos - Dosberthir hwn yn wastraff peryglus a dylid ei waredu’n gyfrifol.
    Sut i gael gwared ar Asbestos​.​​
  • Eitemau gardd e.e. caniau dŵr, pibelli dŵr
  • Bagiau ailgylchu gwyrdd
  • Gwastraff cyffredinol 
  • Rwbel
  • Pridd
  • Pren


 
Peidiwch â rhoi'r eitemau hyn yn eich bin neu'ch sach.


 

Bagiau Ailgylchu​

Mae tua 20% o’r eitemau a roddir yn y bagiau ailgylchu yn cynnwys deunydd na ellir ei ailgylchu. Y prif lygryddion mewn bagiau gwyrdd yw: 

 
​​
 
Peidiwch â rhoi'r eitemau hyn yn eich bag ailgylchu.

 

 
Os gwelwch chi sticer pinc ar eich bagiau neu'ch bin, bydd angen i chi dynnu'r eitemau anghywir cyn i chi gyflwyno eich biniau ar eich dyddiad casglu nesaf. 

Os oes gennych sticer ar eich bin gwyrdd/sach amldro, ond nad ydych wedi rhoi unrhyw eitemau anghywir ynddo, efallai ei fod yn rhy drwm. Tynnwch rywfaint o'r gwastraff, i ysgafnhau'r llwyth.​

Efallai y bydd llythyrau yn cael eu hanfon i’ch eiddo, a fydd yn rhoi rhywfaint o help a chyngor ychwanegol i chi ar ailgylchu.

Ar gyfer eiddo sy'n rhoi eu bagiau ailgylchu mewn ardal gymunedol, bydd ein criw yn rhoi sticeri ar y bagiau ac yn gwneud nodyn eu bod wedi nodi eitemau anghywir mewn man casglu a rennir. 

 
Darllenwch ein gwybodaeth casgliadau ​i ddysgu mwy am ba eitemau y gallwch ac na allwch eu hailgylchu. Os byddwch yn parhau i roi’r eitemau anghywir yn eich ailgylchu, cewch hysbysiad ffurfiol. 

 
Os ydych wedi cael tri sticer pinc o fewn cyfnod o 12 wythnos byddwch yn derbyn rhybudd ffurfiol. 

 
Os oes gennych unrhyw amgylchiadau penodol yr hoffech i ni eu hystyried, cysylltwch â ni am gymorth ac arweiniad.

 
Os cewch fathodyn neu lythyr, ond rydych yn credu nad yw eich bin/bag wedi’i halogi, cysylltwch â ni a byddwn yn ymchwilio i’r mater i chi. ​

Mae nifer o ffyrdd y gallwch gael gwybod pa eitemau i'w rhoi yn eich bagiau a'ch biniau ailgylchu:



 

Cysylltu â ni

​​​​​​​​​​​​​​​
​​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd