Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Casgliadau ailgylchu ar wahân mewn fflatiau

​​​Mae rhai fflatiau wedi cael eu dewis i dreialu ffordd newydd o ailgylchu. Nod hyn yw gwella ansawdd y deunydd a roddir mewn biniau ailgylchu.


Rydyn ni'n ceisio lleihau plastigau untro fel rhan o'n cynllun Caerdydd Un Blaned​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​. Peidiwch â defnyddio eich bagiau gwyrdd i ailgylchu. Gallwch osod eitemau yn rhydd yn y biniau a ddarperir.


Sut mae’n gweithio: 

  • ​Byddwn yn rhoi sach amldro i chi. 
  • Cadwch y sach yn eich eiddo. 
  •  Golchwch eich deunyddiau ailgylchu. 
  • Rhowch y deunyddiau yn y sach. 
  •  Gwahanwch y deunyddiau i'r biniau a ddarperir yn eich ardal storio biniau. 
  • Ewch â'ch sach yn ôl i'ch eiddo i'w ddefnyddio eto. 

​​​Byddwn yn monitro eich ardal ailgylchu ac yn gofyn am adborth gennych yn ystod y treial.


Defnyddiwch y bin hwn ar gyfer:

  • ​Poteli deunyddiau ymolchi plastig
    Fel poteli siampŵ, cynnyrch trin gwallt a hylif swigod bath. 
  • Poteli glanhau plastig
    Fel poteli cannydd a chwistrellwyr 
  • Poteli diodydd plastig
    Fel poteli llaeth, poteli dŵr a photeli diodydd meddal. 
  • Cynwysyddion plastig
    Fel basgedi ffrwythau, potiau iogwrt a phacedi cacennau a myffins. 
  • Cartonau a chaeadau tecawê plastig. 
  • Erosolau
    Fel chwistrellau diaroglyddion. 
  • Caniau diodydd metel
    Fel caniau cwrw a diodydd meddal. 
  • Tuniau bwyd metel
    Fel tuniau ffa a chawl. 
  • Ffoil a chartonau ffoil. 


Peidiwch â defnyddio'r bin hwn ar gyfer:

  • Bagiau cludo plastig a phlastigau meddal
    Fel cling ffilm, seloffen, cartonau prydau parod neu gaeadau pot iogwrt, bagiau bara, deunydd lapio caws, ffilmiau plastig. 
  • Pecynnau creision 
  • Pacedi bwyd anifeiliaid 
  • Pecynnau blister plastig (pacedi a ddefnyddir ar gyfer tabledi a meddyginiaethau). 
  • Brwsys dannedd neu diwbiau brws dannedd. 
  • Raseli neu lafnau raseli.
  • Tanwyr nwy gwag. 
  • Poteli nwy gwag. 
  • Plastigau caled
    Fel teganau plant.
  • Potiau planhigion.
  • Cynwysyddion Tupperware.
Defnyddiwch y bin hwn ar gyfer:

  • Cerdyn 
  • Bocsys cardfwrdd 
  • Bocsys wyau 
  • Tiwbiau papur tŷ bach 
  • Bocsys grawnfwyd 
  • Bocsys past dannedd 
  • Papur Papur newydd 
  • Cylchgronau 
  • Amlenni - gyda ffenestri neu fel arall 
  • Llythyrau 
  • Papur argraffwr 
  • Carpion papur 

Peidiwch â defnyddio'r bin hwn ar gyfer:

  • Cartonau bwyd a diod
    Fel Tetra Pak 
  • Polystyren 
  • Unrhyw ffilm neu ddeunyddiau pacio plastig 
  • Papur wal 
  • Papur lapio 
  • Hancesi papur 
  • Tyweli papur 
  • Rholyn cegin
Defnyddiwch y bin hwn ar gyfer:

  • Poteli gwydr
    Fel poteli cwrw, poteli gwin a photeli diodydd meddal.
  • Potiau gwydr
    Fel potiau bwyd babanod a photiau saws.

Rhowch wydr i mewn i'r bin yn ofalus

Peidiwch â defnyddio'r bin hwn ar gyfer:

  • ​Cerameg neu tsieini 
  • Gwydrau yfed 
  • Paneli gwydr 
  • Bylbiau golau 
  • Pyrex 
  • Gwydr wedi torri
 

© 2022 Cyngor Caerdydd