Mae Caerdydd wedi cyflwyno system oleuadau LED Interact Lighting i’n helpu i ddod yn ddinas fwy gwyrdd a chlyfar. Drwy ddefnyddio’r system hon, bydd y ddinas yn elwa ar arbedion blynyddol o 50% mewn ynni.
Caiff dros 14,000 o oleuadau stryd eu rheoli gan system ganolog rheoli goleuadau Interact City.
Golyga hyn fod gennym ddulliau monitro ac ymateb parhaus ar waith ar draws y ddinas a gallwn ymateb yn well i anghenion y dinasyddion.
Mae hyn yn ein galluogi i addasu goleuadau’r ddinas ar gyfer amser y nos, adeg y flwyddyn neu gyd-destun arall.
Er enghraifft:
- Mwy o olau os oes damwain traffig neu drosedd.
- Gostwng disgleirdeb i 30% pan nad oes unrhyw un gerllaw.
- Defnyddio synwyryddion ar y postyn golau i ganfod gweithgarwch i’ch cadw’n ddiogel ar bob adeg.
- Golau mwy llachar yn ystod y cyfnodau mwyaf prysur y tu allan i ysgolion ac ysbytai er mwyn cynyddu diogelwch a gwelededd.
Beth yw manteision goleuadau LED?
- Gostwng ôl troed carbon drwy ddefnyddio dros 14,000 o oleuadau stryd LED wedi’u cysylltu.
- Gostwng faint o drydan a ddefnyddir gan 60%, ac arbed dros £750,000 y flwyddyn.
- Mwy o ddiogelwch a chysur i’r cyhoedd.