1. Ni chaiff trwyddedau parcio ond eu cyflwyno i breswylwyr eiddo sy’n rhan o gynllun trwyddedau parcio. Ni fydd gan breswylwyr datblygiadau newydd, eiddo wedi’i addasu na neuaddau preswyl sydd eisoes yn bodoli hawl i drwyddedau parcio ar y stryd i breswylwyr.
2. Cofiwch nad yw prynu trwydded parcio yn sicrhau lle mewn ardal parcio i breswylwyr. Os yw ardaloedd parcio i breswylwyr yn llawn, efallai bydd angen ceisio ardaloedd parcio amgen a rhaid cydymffurfio â’r cyfyngiadau yn yr ardal honno.
3. Mae Trwyddedau Parcio ar gael yn Gymraeg neu Saesneg. Byddwn yn sicrhau bod trwyddedau’n cael eu hanfon yn unol â’ch iaith ddewis, ac anfonir adnewyddiadau bob blwyddyn yn awtomatig yn yr iaith a ddewisoch yn wreiddiol. I dderbyn trwydded parcio yn Gymraeg, dewiswch ‘Cymraeg’ a chwblhewch y ffurflen yn Gymraeg. Os dymunwch newid eich dewis iaith unrhyw bryd, gwnewch gais am drwydded newydd a chwblhewch y cais un ai yn Gymraeg neu’n Saesneg.
4. Ni chaniateir parcio cerbyd mewn man parcio i breswylwyr nes byddwch wedi cael y drwydded a’i harddangos yn y cerbyd.
Ceisiadau
5. Rhaid cyflwyno cais drwy ddilyn y dull a bennir gan y Cyngor. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i newid y broses ymgeisio unrhyw bryd pe byddai’r angen yn codi.
6. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais pan ystyrir nad yw cais wedi bodloni’r amodau sy’n orfodol.
7. Efallai y gofynnir i chi ar unrhyw bryd i gyflwyno dogfennau neu dystiolaeth ychwanegol i ategu’ch cais.
Ildio, dileu a dilysrwydd trwyddedau
8. Ni chodir tâl am newid y cerbyd sydd wedi’i gofrestru ar eich trwydded tra’ch bod chi’n byw yn yr un eiddo o fewn y cyfnod yr ydych chi eisoes wedi talu amdano. Dylech chi ddychwelyd eich trwydded at y Cyngor iddynt ei newid. Fodd bynnag, os na ellir dychwelyd y drwydded i’w chyfnewid, yna caiff ei hystyried yn drwydded a gollwyd (gweler pwyntiau 7 ac 8).
9. Os collir neu dinistrir trwydded ar gyfer cerbyd penodol, yna dylai deiliad y drwydded ofyn i’r Cyngor adnewyddu’r drwydded ar ôl iddo brofi i’r cyngor bod yr honiad yn un dilys.
10. Ni rhoddir Trwyddedau Ymwelwyr, Trwyddedau Ymwelwyr yn Unig na Thrwyddedau Masnachwr Moduron newydd os cânt eu colli neu eu dinistrio gan nad ydynt ar gyfer cerbyd penodol.
11. Ni ellir ad-dalu costau unrhyw drwydded.
12. Os caiff trwydded ei hanffurfio neu ei difwyno, neu os nad oes modd gweld y ffigurau na’r manylion ar y drwydded a olygir nad yw’n gymwys mwyach, neu os caiff y drwydded ei difrodi mewn unrhyw ffordd sy’n golygu nad oes modd ei defnyddio, yna dylai deiliad y drwydded ei dychwelyd i’r Cyngor er mwyn ei hadnewyddu.
13. Os nad oes angen eich trwydded arnoch mwyach, yna mae’n rhaid i chi ddychwelyd y drwydded i’r Cyngor.
14. Nid oes modd trosglwyddo unrhyw drwydded (er enghraifft os ydych yn symud cyfeiriad).
15. Ni chaniateir i landlordiaid na pherchenogion wneud cais am drwydded oni bai eu bod yn byw yn yr eiddo y mae'r cais wedi’i wneud ar ei gyfer.
16. Y Cyngor sydd berchen ar y trwyddedau parcio preswyl o hyd, a gellir eu canslo neu eu tynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Os oes Swyddog Gorfodi Sifil yn gofyn i gael gweld eich trwydded parcio, mae’n rhaid i chi ei dangos iddo. Os yw’n amau y caiff ei defnyddio’n dwyllodrus, mae ganddo’r pŵer i atafaelu eich trwydded ac ni ddylech ei rwystro rhag cyflawni’r weithred hon.
17. Ni roddir trwyddedau i gerbydau teithwyr â threlar neu sy’n cludo mwy na 12 teithiwr.
18. Ni roddir trwyddedau i gerbydau nwyddau sydd wedi’u hadeiladu neu eu haddasu at ddibenion cludo nwyddau neu drelar. Ni all yr uchder cyffredinol fod yn fwy na 2.44 metr ac ni all yr hyd cyffredinol fod yn fwy na 5.49 metr.
Cosbau
19. Cyflwynir eich trwydded gyda llythyr yn egluro sut i’w defnyddio. Mae’n rhaid glynu wrth y canllawiau a restrir yn y llythyr hwnnw ar bob adeg.
20. Mae’n rhaid arddangos pob trwydded yn glir a’u gosod ar y sgrîn wynt neu eu gosod ar ddashfwrdd y cerbyd, gan sicrhau bod yr holl fanylion perthnasol yn weladwy i Swyddog archwilio ar bob adeg.
21. Os nad ydych chi’n llwyddo i gael trwydded ddilys am ba bynnag reswm, nid oes gennych chi hawl i barcio mewn lle, ardal na pharth parcio i breswylwyr, a bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i rywle cyfreithlon arall.
22. Mae’n rhaid i unrhyw gerbyd sy’n parcio mewn lle parcio ar gyfer deiliad trwydded parcio preswylwyr yn unig, sicrhau bod pob rhan o’r cerbyd o fewn cyfyngiadau’r lle parcio.
23. Os ydych chi’n torri’r telerau ac amodau hyn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Hysbysiad Tâl Cosb (dirwy barcio).
Datganiad
Caiff y wybodaeth a roddwch ei phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 at ddibenion bodloni ein hymrwymiad cyfreithiol. Caiff y wybodaeth ei thrin yn gyfrinachol, fodd bynnag fe’i rhennir gyda Swyddfa Archwilio Cymru at ddibenion atal a darganfod twyll, ynghyd â sefydliadau eraill pan fydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae Cyngor Caerdydd yn delio â data personol, gweler ein
polisi preifatrwydd.