Mae BikeSafe yn fenter gaiff ei chynnal gan Luoedd yr Heddlu o amgylch y Deyrnas Unedig sy’n gweithio gyda holl gymuned y beiciau modur i leihau nifer y gyrwyr beiciau modur gaiff eu hanafu. Drwy drosglwyddo eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad, gall beicwyr modur yr heddlu eich helpu i ddod yn yrrwr mwy cymwys.
Mae hwn yn gwrs undydd, a gaiff ei gynnal ar ddydd Sadwrn, a chaiff llefydd gymhorthdal gan Gyngor Caerdydd fel rhan o Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru.
Ewch i
wefan BikeSafeDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd am fwy o wybodaeth.
Mae’r cynllun Scooter Smart and Commuter Safe hwn yn derbyn cymhorthdal gan Gyngor Caerdydd fel rhan o Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru ac o’r herwydd mae ar gael am ddim. Mae’n cynnwys diwrnod hyfforddi 7 awr, sy’n dechrau gyda thrafodaeth grŵp yn y dosbarth a chyflwyniad, a gaiff ei arwain gan y cyfranogwyr ond sydd hefyd yn cynnwys pynciau megis:
- Trylifo,
- Defnyddio Lonydd Bysiau,
- cyffyrdd,
- SMIDSYs (the ‘Sorry Mate I Didn’t See You’ syndrome),
- safle,
- sgiliau arsylwi,
- gyrru amddiffynnol a mwy.
Caiff gweddill y diwrnod ei dreulio allan ar y ffordd.
I gadw lle ar un o’r cyrsiau hyn cysylltwch â
www.1stclassrider.co.ukDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd neu
www.crtwales.ukDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Mae Biker Down yn gwrs gaiff ei redeg gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae wedi ei anelu yn bennaf at y gymuned beiciau modur gyda’r ffocws ar gyfrannu at leihau nifer y bobl a gaiff eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau beiciau modur.
Caiff y cwrs ei gynnal gan Ymladdwyr Tân Gweithredol ac mae tri modiwl iddo.
- Rheoli Safle Damwain
- Cymorth Cyntaf
- Gwyddoniaeth Cael eich Gweld
Nod y cwrs yw rhoi dealltwriaeth well i gyfranogwyr o’r hyn y dylid ei wneud os dônt ar draws gwrthdrawiad ffordd a sut i’w reoli yn ddiogel.
Am fyw o wybodaeth ewch i dudalen gwybodaeth Biker Down ar
wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De CymruDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Mae’r rhain o faint cerdyn credyd ac yn cynnwys gwybodaeth elfennol am y beiciwr i helpu’r Gwasanaethau Brys.
Caiff y cerdyn ei gadw yn leinin ochr dde’r helmed ac fe’i nodir gan sticer smotyn gwyrdd a gaiff ei roi fel rhan o’r cynllun. Mae’r cardiau hyn ar gael am ddim gan y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd a Hyfforddiant.
Mae hwn yn gynllun Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru a gaiff ei gefnogi gan MAG, awdurdodau lleol Cymru, y gwasanaethau Ambiwlans, Tân ac Achub a’r Heddlu.