Os ydych chi'n breswylydd neu'n ymwelydd â Chaerdydd, rydyn ni eisiau sicrhau y gallwch chi gael mynediad at doiled ar gyfer eich anghenion.
Gallwch chi weld rhestr lawn o doiledau cyhoeddus y gallwch chi eu defnyddio ar Wefan Croeso Caerdydd.
Gall busnes neu sefydliad ddangos eu bod yn hapus i'r cyhoedd ddefnyddio eu cyfleusterau toiled trwy arddangos y sticer Cynllun Toiledau Cymunedol yma yn y ffenest.
Os ydych chi'n fusnes neu'n sefydliad a hoffai gymryd rhan yn y cynllun Cynllun Toiledau Cymunedol, cysylltwch â: Cyfleusterau_cyhoeddus@caerdydd.gov.uk.