I gyflawni’r gofynion cyfreithiol sydd arnom ac i gefnogi’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol genedlaethol, mae sefydliadau statudol ac arbenigol Caerdydd a Bro Morgannwg wedi creu strategaeth ranbarthol 2018-2023 o’r enw ‘Yn Ein Dwylo Ni’.
Mae’n ymdrin â:
- cham-drin domestig,
- trais rhywiol,
- cam-fanteisio rhywiol (gan gynnwys drwy’r diwydiant rhyw),
- caethwasiaeth fodern,
- priodas dan orfod,
- anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM),
- cam-fanteisio’n rhywiol ar blant (CSE),
- stelcio, ac
- ymyrryd rhywiol.
Gall menywod, dynion, plant a phobl ifanc ddioddef o’r uchod, a gallant effeithio ar bawb, ond rydym yn derbyn mai ar fenywod y mae’r effaith gan amlaf.
Rydym am sicrhau bod y bobl sy’n byw, gweithio ac astudio yn, ac yn ymweld â’n rhanbarth, yn cael cyfle i fyw bywydau cadarnhaol, annibynnol heb effaith trais a chamdriniaeth.
Gweld
y ddogfen strategaeth, y cynllun gweithredu ac adroddiadau eraill sydd wedi eu cyhoeddi ar wefan Partneriaeth Caerdydd.
Ymgyrch y Rhuban Gwyn yw’r ymgyrch fyd-eang fwyaf gan ddynion a bechgyn sy’n gweithio i ddod â diwedd i drais yn erbyn menywod a merched, hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau a fersiwn newydd o wrywdod.
Mae Cyngor Caerdydd wedi derbyn statws Dinas Rhuban Gwyn dros y 4 mlynedd diwethaf. Mae cael y dyfarniad yn dangos ein hymrwymiad, fel awdurdod lleol ac fel dinas, i’w gwneud yn glir na fydd camdriniaeth ddomestig a phob ffurf arall ar drais yn erbyn menywod a merched yn cael eu goddef. Mae rhagor o wybodaeth am Ruban Gwyn yn y DU yma:
www.whiteribbon.org.uk
Ers derbyn ein statws Dinas Rhuban Gwyn am y tro cyntaf yn 2014, mae’r ymgyrch leol wedi tyfu’n gyson, gyda gweithgareddau’n ennyn cefnogaeth genedlaethol a rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys y gwely blodau y tu allan i Gyngor Caerdydd sy’n arddangos y Rhuban Gwyn ar adegau allweddol o’r flwyddyn.
Un o’n digwyddiadau allweddol yw ‘Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi’, digwyddiad blynyddol a drefnir ar y cyd a Chymdeithas Dai Cadwyn a Chyngor Bro Morgannwg hefyd erbyn hyn. Cynhelir Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd pob blwyddyn, sy’n cyd-daro â ‘Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn erbyn Menywod a Merched’ y Cenhedloedd Unedig. Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus yr adeg honno pob blwyddyn. Gallwch ddilyn ein gweithgareddau Rhuban Gwyn ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #rhubangwyncaerdyddarfro / #whiteribboncardiffvale
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chydlynydd Camdriniaeth Ddomestig Caerdydd ar 029 2053 7009