Mae Budd-dal y Dreth Gyngor wedi cael ei ddisodli gan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Os ydych ar incwm isel, gallai gostyngiadau’r Dreth Gyngor helpu i dalu’ch bil Treth Gyngor.
Efallai y bydd gennych hawl i ostyngiadau ac eithriadau eraill o'ch bil Treth Gyngor, yn seiliedig ar eich amgylchiadau, nid eich incwm. Dysgwch fwy am
ostyngiadau eraill y Dreth Gyngor.
Ydw i’n gymwys i gael Gostyngiad y Dreth Gyngor?
Mae Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gael i chi os ydych yn talu’r Dreth Gyngor ar y cartref rydych yn byw ynddo fel arfer. Gallwch wneud cais amdano p’un a ydych yn berchen ar eich cartref eich hun neu’n rhentu lle i fyw ynddo.
Gallwch hawlio gostyngiad y Dreth Gyngor i helpu i dalu’ch Treth Gyngor p’un a ydych chi’n:
- cael budd-daliadau eraill, credydau treth, neu bensiynau (yn cynnwys Credyd Cynhwysol)
- gweithio
- di-waith
- ddim yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd
- yn gofalu am blentyn neu oedolyn
- wedi ymddeol
Ond nid oes gan bawb sy’n gwneud cais am fudd-dal hawl i’w gael.
Os oes gennych cyfalaf (e.e. gynillion, briodwedd, neu unrhyw ased arall) o £16,000 neu fwy, ni fydd gennych hawl i Fudd-dal Tai oni bai eich bod yn cael
Credyd Gwarant Credyd Pensiwn.
Y ffordd orau o gael gwybod a allwch gael gostyngiad yw cysylltu â ni.
Ffôn 029 2087 1071
Os ydych yn talu rhent, a ddim yn derbyn Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch gael
Budd-dal Tai hefyd.
Cysylltu â ni