CDWEM yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Diddymu pob ffurf ar Wahaniaethu yn Erbyn Menywod.
Ar 30 Mawrth 2023 cymeradwywyd cynnig i ddatgan Caerdydd yn 'Ddinas dros CDWEM'. Cytunwyd hefyd:
- rhoi cyngor a gwybodaeth trwy'r Hybiau a Llyfrgelloedd cymunedol ledled Caerdydd i helpu menywod a merched i gael mynediad at yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, gan gynnwys llyfryn hawliau.
- creu rhaglen o weithgareddau, wedi'i llywio gan fenywod a merched, i rymuso ac ennyn diddordeb menywod a merched, gan gynnwys 'Gŵyl hawliau', 'Hyrwyddwyr Cydraddoldeb' a phrosiectau effaith gymdeithasol yng Nghaerdydd.
- sicrhau bod mwy o Fannau Diogel ledled Caerdydd, gan gynnwys menywod a merched wrth eu creu.
- cyflawni strategaeth a chanlyniadau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) cryf i wella diogelwch pob menyw a merch yng Nghaerdydd.
- sicrhau bod strategaeth VAWDASV Caerdydd yn adlewyrchu CDWEM ac yn cynnig uchelgais glir a chyflawniadau tuag at roi diwedd ar bob math o drais yn erbyn menywod a merched.
- adolygu ein rhaglen o hyfforddiant cydraddoldeb/cynhwysiant i sicrhau bod egwyddorion CDWEM yn cael eu hamlygu, eu prif ffrydio a'u darparu trwy hyfforddiant o'r fath i'n staff a'n swyddogion, gan gynnwys staff rheng flaen.
- rhoi mesurau ar waith sy'n sicrhau bod gweithlu'r Cyngor yn fwy cynrychioliadol a chynhwysol o'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys cryfhau a dathlu gwaith ein rhwydwaith cydraddoldeb.
- sicrhau bod egwyddorion CDWEM wedi'u gwreiddio ym mhob penderfyniad, gydag asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu cyflwyno i bwyllgorau craffu, gan gyflawni dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus ar rywedd.
- byw drwy esiampl: parhau i osod atebolrwydd am gam-drin ar y rhai sy'n achosi niwed, drwy herio a newid diwylliant rhywiaeth a chasineb at fenywod, trwy weithgareddau ac ymyriadau sy'n mynd i'r afael ag ymddygiadau niweidiol a hyrwyddo diddymu gwahaniaethu yn erbyn menywod i bobl o bob rhyw.
- ymgorffori cynllunio dinesig sy'n ystyried rhywedd mewn polisi cynllunio a dylunio trefol fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd sydd ar ddod.
Cytunodd Cabinet y Cyngor i gyflwyno adroddiad gyda chynigion wedi'u hamserlennu i gyflawni'r ymrwymiadau a restrir uchod. Bydd hyn yn cael ei gynnwys yn Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024-28 y Cyngor, sydd ar ddod.