Mae Cyngor Caerdydd yn un o 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac mae'n darparu dros 700 o wasanaethau i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr, gan gynnwys:
- Addysg
- Tai
- Gwasanaethau cymdeithasol
- Priffyrdd a thrafnidiaeth
- Rheoli gwastraff
- Gwasanaethau hamdden a diwylliannol
- Amddiffyn defnyddwyr
- Iechyd yr amgylchedd
- Cynllunio
- Datblygu economaidd
- Cynllunio at argyfwng
Mae'r awdurdod yn cynnwys aelodau a etholwyd yn ddemocrataidd a gweithrediaeth (Cabinet) sy'n gwneud y penderfyniadau am wasanaethau, polisïau a datblygiadau yn y ddinas.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gwneud penderfyniadau teg rhaid i'r aelodau a'r uwch reolwyr ddilyn y
rheolau a’r rheoliadau a nodir yn y Cyfansoddiad.
Mae'r Cyngor yn derbyn arian o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys grant gan Lywodraeth Cymru, ardrethi busnes a’r Dreth Gyngor.
Ddiwedd yr hydref, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Setliad Dros Dro, sy'n rhoi syniad o faint y grant a lefel yr ardrethi busnes y gallem eu disgwyl ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn cyfrif am dros 75% o gyfanswm ein hincwm.
Ym mis Chwefror mae'r Cyngor yn cytuno ar y gyllideb ac yn pennu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Rhagor o
wybodaeth am Gyllid y Cyngor.
Mae llawer o wahanol ffyrdd y gallwch gysylltu â Chyngor Caerdydd.
Cysylltu â’ch Cynghorydd Lleol
Rôl eich Cynghorydd etholedig yw eich cynrychioli chi a'ch pryderon ac i lobïo ar eich rhan. Gallwch e-bostio, ffonio neu ysgrifennu llythyr at eich cynghorydd. Mae llawer o’n haelodau hefyd yn ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dod o hyd i’ch cynghorwyr lleol a sut i gysylltu â nhw.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn anfon diweddariadau rheolaidd ar ein gwasanaethau, digwyddiadau ac unrhyw ymgyngoriadau sy'n mynd rhagddynt. Mae'n werth chweil ein dilyn ni ar Twitter a hoffi ein tudalen ar Facebook. Mae nifer o’ch cynghorwyr lleol hefyd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
Lawrlwythwch ap Modern.Gov
Gallwch weld holl bapurau cyhoeddus y pwyllgorau ar eich dyfais symudol trwy lawrlwytho ap Modern.Gov. Gallwch ddewis pa bwyllgorau yr hoffech chi danysgrifio iddynt a chaiff y papurau perthnasol eu lawrlwytho i’ch dyfais pan fyddwch ar-lein nesaf. Cofrestrwch i'r ap modern.gov ar
Google,
Microsoft neu'r
App Store.
Gwyliwch gyfarfodydd ar-lein
Gwyliwch gyfarfod y Cyngor.
Gallwch wylio cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a'r pwyllgorau wrth iddynt fynd rhagddynt neu wylio cyfarfodydd blaenorol o'r archif.
Cofrestrwch i bleidleisio
I bleidleisio mewn unrhyw etholiad neu refferendwm y DU, mae'n rhaid eich bod wedi’ch cofrestru i bleidleisio. Dim ond pum munud a'ch rhif Yswiriant Gwladol sydd eu hangen arnoch chi i gofrestru i bleidleisio. Gallwch gofrestru i bleidleisio o 14 oed (ond ni allwch bleidleisio tan eich bod yn 16 neu'n 18 oed, yn dibynnu ar yr etholiad) ac mae gan ddinesydd tramor cymwys yng Nghymru hawl i gofrestru i bleidleisio hefyd.
Cofrestru i bleidleisioDysgwch am y gwahanol ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.
Cymerwch ran mewn Ymgyngoriadau Cyhoeddus
Rydym yn cynnal ymgyngoriadau rheolaidd ar gynigion a allai effeithio arnoch chi, eich cymuned a'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu. Mae ein holl ymgyngoriadau ar gael yn eang.
Cymerwch olwg ar yr ymgyngoriadau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd.
Deisebau
Rydym yn cydnabod bod deisebau’n un ffordd y gall pobl roi gwybod i ni am eu pryderon. Gellir cyflwyno deisebau i gyfarfod y Cyngor Llawn a’r Pwyllgorau Cynllunio a Thrwyddedu.
Mae ein
Cynllun Deisebau yn esbonio sut i gyflwyno deisebau papur neu electronig i’w hystyried gan y Cyngor llawn neu bwyllgorau.
Cwestiynau gan y Cyhoedd
Os ydych chi’n byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd a bod gennych gwestiwn i’w gyflwyno am rywbeth sy’n bwysig i chi a’ch cymuned, gallwch ofyn cwestiwn cyhoeddus yn un o gyfarfodydd y Cyngor Llawn. Gallwch ofyn un cwestiwn fesul cyfarfod a hyd at ddau mewn unrhyw flwyddyn y Cyngor.
I ofyn cwestiwn cyhoeddus, e-bostiwch
gwasanaethaudemocrataidd@caerdydd.gov.uk neu ysgrifennwch at Gwasanaethau Democrataidd Cyngor Caerdydd, Ystafell 286, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW.
Dweud eich dweud drwy Graffu
Mae aelodau pwyllgorau craffu yn gynghorwyr nad ydyn nhw’n dal swyddi yng Nghabinet y Cyngor. Maent yn monitro perfformiad y Cyngor ac yn ymchwilio i feysydd sy'n peri pryder. Maent hefyd yn dwyn i gyfrif y sawl sy'n gwneud penderfyniadau'r Cyngor ac yn ystyried strategaethau a pholisïau arfaethedig. Maent yn gwirio, ac yn adrodd ar bob maes gwaith y Cyngor, gan gynnwys gwaith partneriaeth. Mae aelodau’r pwyllgorau craffu am glywed eich barn a'ch pryderon ar bynciau.
Rhagor o wybodaeth am Graffu.
Mynd i gyfarfod cyhoeddus
Cynhelir cyfarfodydd cyhoeddus rheolaidd gan gynnwys y Cyngor, y Pwyllgor Cynllunio, y Cabinet a’r Pwyllgorau Craffu sy'n ymwneud â phum pwnc.
Gweld agendâu, papurau, lleoliad ac amser y cyfarfodydd.
Gallwch fynd i gyfarfodydd cyhoeddus.
Gweld calendr cyfarfodydd y Cyngor.
Cyngor Ieuenctid Caerdydd
Mae
Cyngor Ieuenctid Caerdydd wedi’i ffurfio o unigolion a chynrychiolwyr o ysgolion a grwpiau ieuenctid.
Dysgwch fwy am Gyngor Ieuenctid Caerdydd.
Aelodau Annibynnol ar Bwyllgorau’r Cyngor
Mae gan ddau o bwyllgorau'r Cyngor Aelodau Annibynnol neu Aelodau Lleyg. Diben hyn yw cefnogi llywodraethu da, stiwardiaeth ariannol a safonau ymddygiad uchel y Cyngor a'i Aelodau Etholedig. Mae gan Aelodau Annibynnol ystod o brofiad a sgiliau ac nid oes ganddynt gysylltiadau busnes â'r Cyngor.
Am fwy o wybodaeth ewch i'n tudalen
swyddi Pwyllgor gwag.
Bod yn gynghorydd
Caiff cynghorwyr eu hethol i gynrychioli eu cymunedau i wneud penderfyniadau pwysig am faterion lleol a gwasanaethau cyhoeddus lleol. Mae'n bwysig bod cynghorwyr yn adlewyrchu’r bobl sy'n eu hethol - mae angen mwy o gynghorwyr amrywiol - mae angen mwy o fenywod, mwy o bobl ifanc, mwy o bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, mwy o bobl anabl a mwy o bobl LHDTC+. Mae pob Cyngor wedi ymrwymo i annog a chefnogi pobl amrywiol i ddod yn gynghorwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno diwygiadau i'w gwneud hi'n haws sefyll am etholiad a
dod yn gynghorydd.
Etholiadau a phleidleisio
Os oes gennych ddinasyddiaeth Brydeinig, Wyddelig neu ddinasyddiaeth gymwys o’r Gymanwlad, gallwch bleidleisio ym mhob etholiad sy'n cael ei gynnal. Yng Nghymru gallwch bleidleisio yn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol yn 16 oed. Gallwch bleidleisio ym mhob etholiad arall pan fyddwch yn 18 oed, gan gynnwys etholiadau Senedd y DU a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu. Os oes gennych ddinasyddiaeth yr UE (heblaw Gweriniaeth Iwerddon, Malta a Chyprus), gallwch bleidleisio yn y rhan fwyaf o etholiadau sy'n cael eu cynnal. Ni chewch bleidleisio yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU. Os ydych chi’n ddinesydd tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru, gallwch bleidleisio yn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol.
Ym mha etholiadau ydw i’n cael pleidleisio ynddyn nhw?Mathau o etholiad