Mae angen i weithredwyr pontydd pwyso feddu ar dystysgrif cymhwyso gan y Prif Arolygydd Pwysau a Mesurau. Mae hyn yn sicrhau y gallant gyflawni eu dyletswyddau mewn ffordd gymwys ac onest. Ni all neb weithredu offer pwyso cyhoeddus heb dystysgrif.
Gallwch gael tystysgrif ar ôl cwblhau prawf sylfaenol. Caiff profion eu cynnal dan
Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Sut i wneud cais
I drefnu prawf, cwblhewch y
ffurflen gais Gweithredwr Pont Bwyso Cyhoeddus (8mb DOC)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd a’i dychwelyd atom yn y post neu mewn person:
Safonau masnach
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW
Oriau Agor
Dydd Llun - Dydd Iau: 8.30am – 5pm
Dydd Gwener: 8.30am – 4pm
Faint mae’n ei gostio?
Ar hyn o bryd, mae’r ffi i gael tystysgrif yn dibynnu ar y cais, yn ôl argymhelliad
Cydlynwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol (LACORS)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cael y ffurflen gais, bydd swyddog o Safonau Masnach Caerdydd yn cysylltu â chi i drefnu amser a dyddiad i’r prawf.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gyngor,
cysylltwch â ni
Cysylltu â ni
029 2087 3059