Ydych chi neu rywun rydych yn ei nabod angen cymorth a chefnogaeth un-i-un arbenigol i fynd yn ôl i’r gwaith? Efallai eich bod eisiau uwch-sgilio yn eich swydd bresennol neu angen cymwysterau newydd? Neu help i hawlio Credyd Cynhwysol? Beth bynnag yw eich amgylchiadau, gall y Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith helpu!
Byddwn yn gwrando arnoch ac yn eich helpu i ddod o hyd i’r yrfa gywir i chi. Mae gennym amrywiaeth eang o gymorth ar draws y ddinas sydd wedi’i deilwra i’ch anghenion.
Mae’r Gwasanaeth i Mewn i WaithDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd yn cynnig sesiynau galw heibio anffurfiol am ddim mewn lleoliadau ledled Caerdydd i drigolion sy’n chwilio am waith neu sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau yn eu swyddi presennol.
Gallwn gynnig help a chyngor ar y canlynol:
- Ysgrifennu CV
- Ffurflenni cais a llythyrau eglurhaol
- Chwilio am Swydd
- Cymorth cyflogaeth 1-i-1
- Technegau cyfweld
- Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein
- Hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim fel diogelwch bwyd a chymorth cyntaf.
- Cyllid gofal plant, teithio a threuliau eraill (yn dibynnu ar gymhwysedd)
- Dechrau eich busnes eich hun
- Cyfleoedd gwirfoddoli
- Cyfleoedd lleoliadau gwaith
Ffoniwch ni ar 029 2087 1071.