Loading
Fy Nghymdogaeth
Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.
Find facilities in my area
Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Page Content
Oherwydd y pandemig parhaus, yn anffodus mae’r gwasanaeth hwn wedi’i atal am y tro
Ni fydd rheoliadau’r UE ar gyfer Rhyddid i Symud yn berthnasol i’r DU ar ôl Rhagfyr 2020 ac felly mae Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn ofynnol i ddinasyddion yr UE, ynghyd ag aelodau eu teuluoedd, sy’n dymuno aros yn y DU yn gyfreithlon ar ôl y cyfnod pontio, wneud cais am statws preswyl newydd.
Y dyddiad cau i wladolion yr UE a'r rhan fwyaf o aelodau eu teulu wneud cais dan y cynllun yw 30 Mehefin 2021.
Mae'r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn seiliedig ar y canllawiau sydd ar gael ar hyn o bryd gan y Swyddfa Gartref a Llywodraeth y DU. Fe'i bwriedir fel canllaw cyfeirio cyffredinol ac nid yw'n gyfystyr â chyngor cyfreithiol na chanllawiau ar gyfraith a pholisi mewnfudo. Roedd y wybodaeth yn y briff hwn yn gywir adeg ei chyhoeddi, fodd bynnag, sylwer bod y maes polisi hwn yn symud yn gyflym ac yn destun newid cyson, yn enwedig ar hyn o bryd wrth i'r DU negodi ei pherthynas â'r UE yn y dyfodol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch diogelu eich statws mewnfudo yn y DU, ymgynghorwch ag ymgynghorydd mewnfudo a reoleiddir gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo. Cofiwch holi a yw'r ymgynghorydd yn codi ffi am ei wasanaeth.
Rhannwch y dudalen hon: