Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Telerau ac Amodau’r

Gofalwch eich bod yn darllen y telerau ac amodau yn drylwyr oherwydd y gofynnir i chi gytuno arnynt ar ddiwedd y broses gofrestru.

  1. Nod Gwasanaeth Cerdd Caerdydd a Bro Morgannwg yw rhoi 35 o wersi/sesiwn Ensemble yn ystod y flwyddyn academaidd fel yr eglurir yn y Pecyn Gwybodaeth i Rieni. Fodd bynnag, os bydd eich plentyn yn dechrau yn ystod Yymor y Gwanwyn/Tymor yr Haf, caiff nifer y gwersi/sesiynau Ensemble eu haddasu’n briodol. Nid ydym yn rhoi nifer penodol o wersi/sesiynau fesul tymor oherwydd bod tymhorau ysgol yn amrywio o ran hyd ac o’r herwydd yn effeithio ar nifer y gwersi/sesiynau a roddir yn ystod unrhyw dymor. Mae’r ffioedd ar gyfer y tymor ac nid nifer y gwersi/sesiynau a roddir.

    Sylwer y byddwch yn ymrwymo i’r tymor cyfan o wersi/sesiynau Ensemble wrth gofrestru.



  2. Rhoi’r gorau i Wersi/sesiynau Ensemble – I dynnu’ch plentyn o’r gwersi/sesiynau mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r gwasanaeth cerdd yn ysgrifenedig un ai dros e-bost neu drwy lythyr. Nid oes rhaid i’ch plentyn barhau gyda gwersi/sesiynau am weddill y tymor, fodd bynnag bydd rhaid i chi dalu ffioedd y tymor cyfan. Dylid anfon hysbysiad i:

    Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg,
    Ystafell 422,
    Neuadd y Sir,
    Caerdydd
    CF10 4UW
    neu anfon e-bost i gwasanaethcerddccbm@caerdydd.gov.uk; i dynnu eich plentyn o’r gwersi.

    Ni fydd rhoi gwybod ar lafar neu’n ysgrifenedig i’r athro/arweinydd ensemble/ysgol yn cael ei ystyried fel hysbysu digonol.

  3. Newidiadau i wersi/Ensembles - os dymunwch newid math gwersi eich plentyn e.e. o grŵp i bâr ac ati, neu i sesiwn Ensemble, rhowch wybod i swyddfa’r Gwasanaeth Cerdd ar unwaith yn ysgrifenedig drwy e-bost neu lythyr. Byddwn yn cysylltu â’r athro/arweinydd Ensemble i weld a yw hynny’n ymarferol, ond yn y pen draw Gwasanaeth Cerdd Cyngor Caerdydd a Bro Morgannwg fydd yn penderfynu p’un ai i gytuno â’r cais ai peidio. Nid oes modd newid math y wers/Ensemble gyfran o’r ffordd drwy’r tymor; mae angen i ni gael gwybod yn ysgrifenedig o flaen llaw er mwyn gwneud y trefniadau ar gyfer y tymor dilynol. Yr un yw’r drefn os yw eich plentyn yn dymuno newid offeryn.

  4. Caiff anfonebau eu hanfon bob tymor. Byddwch yn cael gwybod pryd i dalu’r ffioedd dros e-bost. Rhaid talu’r ffioedd cyn pen 28 diwrnod ar ôl i’r e-bost ddod i law. Bydd methu â thalu’r ffioedd mewn pryd yn golygu na fydd eich plentyn/plant yn cael eu cynnwys mewn gwersi/sesiynau Ensemble nes bydd y ffioedd wedi dod i law, fodd bynnag, bydd disgwyl i chi dalu ffioedd am y tymor cyfan. Os na chaiff y ffioedd eu talu mewn pryd, bydd cyfrifoldeb y Gwasanaeth Cerdd i roi gwersi/sesiynau Ensemble i’ch plentyn yn dod i ben a bydd Gwasanaeth Adfer Dyledion y Cyngor yn bwrw ati i adfer unrhyw symiau sy’n ddyledus – a allai arwain at gymryd camau gweithredu yn eich erbyn.

  5. (a) Yn amodol ar (b) isod, os bydd yr athro yn absennol o unrhyw wers, neu os bydd digwyddiadau, amgylchiadau neu achosion y tu hwnt i reolaeth Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg yn arwain at golli gwersi, gwneir pob ymdrech resymol i ail-drefnu’r gwersi dan sylw. Fodd bynnag, mae Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg yn cadw’r hawl i ad-dalu ffioedd am wersi wedi eu colli fel dewis amgen.

    (b) Ni chaiff gwersi a gollir gan y disgybl oherwydd ei absenoldeb (am ba bynnag reswm - e.e. (heb gyfyngiadau) tripiau ysgol, diwrnod mabolgampau, salwch ac ati) eu haildrefnu ac nid ad-delir unrhyw ffioedd.

  6. Disgwylir i ddisgyblion ymarfer yn unol â chyfarwyddiadau eu hathro a dod i’w gwersi/sesiynau yn brydlon gyda’u hofferynnau a’u llyfrau perthnasol. Mae’n bosib y caiff unrhyw ddisgybl sy’n methu â dod i’w wersi’n brydlon gyda’i offeryn a’i lyfrau; neu sy’n creu helynt neu’n gwrthod cydweithredu, ei wahardd rhag cael gwersi yn y dyfodol. Ni chaiff disgyblion sydd wedi’u diarddel neu eu gwahardd o’r ysgol ddod i’w gwersi yn ystod y cyfnod diarddel neu wahardd. Mewn unrhyw un o’r amgylchiadau hyn, bydd ffioedd y tymor llawn yn parhau’n daladwy; ni chaiff gwersi eu hail-drefnu ac ni roddir unrhyw ad-daliadau.

  7. Disgwylir i ddisgyblion ymarfer yn unol â chyfarwyddiadau eu hathro a dod i’w gwersi/sesiynau yn brydlon gyda’u hofferynnau a’u llyfrau perthnasol. Mae’n bosib y caiff unrhyw ddisgybl sy’n methu â dod i’w wersi’n brydlon gyda’i offeryn a’i lyfrau; neu sy’n creu helynt neu’n gwrthod cydweithredu, ei wahardd rhag cael gwersi yn y dyfodol. Ni chaiff disgyblion sydd wedi’u diarddel neu eu gwahardd o’r ysgol ddod i’w gwersi yn ystod y cyfnod diarddel neu wahardd. Mewn unrhyw un o’r amgylchiadau hyn, bydd ffioedd y tymor llawn yn parhau’n daladwy; ni chaiff gwersi eu hail-drefnu ac ni roddir unrhyw ad-daliadau.

  8. Gan weithredu’n rhesymol a chyda phob ewyllys da, mae’n bosib y caiff y telerau ac amodau hyn eu hamrywio gan Wasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg o bryd i’w gilydd. Cewch wybod am unrhyw amrywiadau dros e-bost. Drwy gwblhau’r broses gofrestru ar-lein rydych yn cadarnhau eich bod yn cytuno â’r holl delerau ac amodau (gan gynnwys yr holl amrywiadau dilynol perthnasol) ac yn cydnabod bod hyn yn creu contract sy’n eich rhwymo’n gyfreithiol ac a fydd yn parhau’n weithredol oni bai eich bod yn ysgrifennu atom i roi gwybod i ni eich bod am dynnu eich plentyn yn ôl o wersi/sesiynau Ensemble. Petai eich plentyn yn symud i ysgol arall ac yn dymuno parhau â’i wersi, rydych yn cytuno i roi gwybod i Wasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg yn ysgrifenedig. 


Cofrestrwch ar-lein​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd