Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Fitzalan High School

​​Ymgysylltu â’r cyhoedd ar ddatblygiad adeilad newydd i Ysgol Uwchradd Fitzalan (12 Tachwedd - 10 Rhagfyr 2018)

Cefndir

Nodwyd bod angen amnewid adeiladau presennol Ysgol Uwchradd Fitzalan yn rhan o Raglen Band B Ysgolion yr 21ain ganrif. Mae hon yn rhaglen fuddsoddi gwerth £284 miliwn, a ariennir ar y cyd gan Gyngor Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Bydd yn cyflawni gwaith ar gyfer pum ysgol uwchradd, pedair ysgol arbennig newydd a phedair ysgol gynradd newydd erbyn 2024.​

Beth fyddai’r datblygiad yn ei greu?

Byddai project Ysgol Uwchradd Fitzalan yn cynnwys cyfleusterau addysgol o’r radd flaenaf mewn adeilad ysgol hollol newydd o fis Medi 2022. Byddai’r disgyblion yn manteisio ar yr amgylchedd dysgu gorau. Bydd hyn yn cynorthwyo ac yn gwella’r prosesau addysgu a dysgu.

Byddai hefyd cyfleusterau chwaraeon gwell megis pwll nofio newydd, ardaloedd gemau aml-ddefnydd (AGADD), yn ogystal â mynediad at gaeau rygbi a phêl-droed 3G. 

Byddai’r cyfleusterau hyn ar gael i’r gymuned gyfan eu defnyddio. 

Byddai’n dal yn bosibl defnyddio’r cyfleusterau chwaraeon presennol. 

Byddai gan yr ysgol newydd yr un capasiti â’i chapasiti presennol (sef 1500 o ddisgyblion rhwng 11 a 16 oed. Bydd 28 o leoedd yn ychwanegol yn y Chweched Dosbarth i ddarparu ar gyfer hyd at 350 o ddisgyblion).

Dan y cynigion, byddai’r ysgol newydd ar safle ar Leckwith Road, Lecwydd. 

Byddai’r brif fynedfa yn wynebu Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd gyda mannau mynediad i gerddwyr ychwanegol ar gyfer disgyblion ar Lawrenny Avenue. Mae hyn yn unol â strategaeth cludiant i’r ysgol.

Ysgol Uwchradd Fitzalan (6.33mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Byddai disgyblion yn aros ar safle presennol Ysgol Uwchradd Fitzalan ar Lawrenny Avenue nes i’r adeilad newydd fod yn barod. Byddai’r datblygiad yn amharu ar addysg y disgyblion cyn lleied â phosibl neu ddim o gwbl.

Sut i gael gwybod mwy


Hoffem roi cymaint o wybodaeth â phosibl ichi ynglŷn â’n cynigion yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. 

Trefnwyd cyfres o sesiynau galw heibio lle gallwch ddod a siarad â ni am yr ysgol newydd. 

Dyma restr ohonyn nhw:

​​Math o ymgynghoriad ​Dyddiad/Amser​​Lleoliad
​Sesiwn Galw Heibio Dydd Mercher 21 Tachwedd 5 - 1pm​Llyfrgell Treganna
​Sesiwn Galw Heibio Dydd Mercher 28 Tachwedd 4 - 6pm​Llyfrgell a Hyb Grangetown
​Sesiwn Galw Heibio Dydd Mawrth 4 Rhagfyr 9 - 11am​Hyb Butetown
 Fel arall cysylltwch â’r Tîm Cynllynio Trefniadaeth Ysgolion

Tîm​ Cynllynio Trefniadaeth Ysgolion​
Ystafell 422
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW

E-bost: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk


© 2022 Cyngor Caerdydd