Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwybodaeth am y rhaglen

Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn cydweithio ar Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif er mwyn sefydlu ysgolion priodol yn y mannau priodol.
 
Prif flaenoriaethau'r rhaglen fuddsoddi yw:
  • Paru'r lleoedd sydd ar gael â'r galw am leoedd
  • Buddsoddi mewn ysgolion newydd ac adnewyddu ysgolion presennol
  • Ateb y galw am addysg Gymraeg a Saesneg
  • Sefydlu ysgolion cynradd 3 - 11 oed
  • Sefydlu darpariaeth feithrin ar safleoedd ysgolion cynradd
  • Gwella cyfleusterau TGCh

 

Bydd hyn yn creu:
  • Amgylcheddau dysgu gwell i blant a phobl ifanc rhwng 3 a 19 oed
  • Gwell defnydd o adnoddau i wella effeithlonrwydd ysgolion
  • System addysg gynaliadwy lle bydd pob ysgol yn cyrraedd y safonau cenedlaethol ac yn lleihau costau rhedeg ac ôl troed carbon presennol
  • Mae Caerdydd wedi elwa o fuddsoddiad sylweddol eisoes (edrychwch at ein sioe sleidiau Gwella Ysgolion)

 

Byddwn yn parhau i godi safonau ysgolion a gwella safon yr amgylchedd dysgu i greu Ysgolion yr 21ain Ganrif addas at y diben a rhoi'r cychwyn gorau posibl i bob plentyn yng Nghaerdydd.
© 2022 Cyngor Caerdydd