Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ysgolion Caerdydd

Cysylltu ag ysgol neu ddod o hyd i ysgol


Mae tair ffordd wahanol o ddod o hyd i fanylion cyswllt ein hysgolion a llywodraethwyr.

Os hoffech gysylltu â llywodraethwr, cysylltwch â’r pennaeth neu ysgrifennwch at gadeirydd y llywodraethwyr gyda chyfeiriad yr ysgol


Gallwch chwilio am ysgol​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn ôl:

  • lleoliad,
  • math,
  • ward yng Nghaerdydd,
  • enw'r Pennaeth,
  • iaith (Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog), neu
  • ran o'r cyfeiriad. 



Dalgylchoedd


Nid oes rhaid i blentyn fyw mewn dalgylch ysgol i fod yn gymwys i fynychu'r ysgol.


Ym mha ddalgylch ydw i'n byw ynddo?​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


Nodwch eich cod post i weld pa ddalgylch rydych chi'n byw ynddo​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd. Bydd y canlyniadau'n dangos gwybodaeth am ddalgylchoedd:



​Bydd angen i chi nodi cod post eich cartref i chwilio. Os yw eich plentyn yn byw gyda mwy nag un rhiant, defnyddiwch ei brif gyfeiriad.


Mae ysgol gynradd newydd Ysgol Gynradd Groes-wen yn agor ym mis Medi 2023.  Wedi'i lleoli yn natblygiad Plasdŵr ar dir i'r de o Heol Llantrisant, bydd yr ysgol newydd yn gwasanaethu rhannau o ogledd-orllewin Caerdydd. Nid yw dalgylch wedi ei sefydlu eto.

Bydd yr ysgol yn ysgol ddwy ffrwd, wedi ei threfnu fel un dosbarth mynediad yn cynnig addysg Gymraeg ac un dosbarth mynediad yn cynnig model iaith ddeuol - 50% addysg cyfrwng Saesneg a 50% addysg Gymraeg.

Agorwyd ceisiadau o ran derbyniadau i ddosbarth Derbyn 2023/24 yn yr ysgol ym mis Tachwedd 2022. Gellir gwneud ceisiadau meithrin ar gyfer Medi 2023 ym mis Ionawr 2023.  Bydd disgyblion ym Mlynyddoedd ysgol 1 a 2 yn cael cyfle i wneud cais i'r ysgol o fis Ebrill 2023 i'w derbyn o fis Medi 2023.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Ysgol Gynradd Groes-wen


Sefydlwyd ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg newydd, Ysgol Gynradd Howardian, ym Mhen-y-lan ym mis Medi 2015. Nid oes dalgylch ar gyfer yr ysgol wedi’i sefydlu eto.


 

Nodwch na allwn sicrhau lle i'ch plentyn yn ysgol eich dalgylch. Caiff lleoedd eu dyrannu yn dibynnu ar argaeledd yn y grŵp blwyddyn perthnasol.



Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gyngor arnoch ar ddalgylchoedd, cysylltwch â ni.

 

Nifer y disgyblion yn ysgolion Caerdydd

Niferoedd ar y gofrestr (NAYG) yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at nifer y disgyblion sydd wedi cofrestru ym mhob ysgol.

Cynhaliwyd yr arolwg NAYG diwethaf ym mis Mai 2022.

Nodyn ar ansawdd y data: Er bod y rhan fwyaf o'r prosesau arferol dilysu data’r NAYG Ionawr 2020 ysgolion wedi digwydd, oherwydd pandemig y coronafeirws, ni fydd y data yn mynd trwy'r broses ddilysu derfynol arferol. Dylai mwy o ofal cael eu defnyddio wrth gymharu data, yn enwedig carfannau bach neu ble mae newidiadau sylweddol.

Ymhellach i’r pandemig parhaol, ni cafodd fydd ffigyrau NAYG Mai 2020 neu Ionawr 2021 eu casg

Flwyddyn Academaidd 2021/22


Flwyddyn Academaidd 2020/21



​​Cysylltu â ni


 

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd