Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cwmpas a chylch gwaith

Y Setliad Cyllideb Refeniw i Ysgolion


Y prif fater i’r Fforwm ei ystyried fydd y cyfle i gynnig cyngor i’r Awdurdod ar gyllidebau ysgol ar gyfer y flwyddyn ariannol ac i ddod â sylw’r Awdurdod at y pwysau ariannol sydd i ddod yn ystod y blynyddoedd nesaf.
 
Wrth wneud hynny gall y Fforwm ystyried yr effaith a gaiff y setliad cyllideb blaenorol ar ysgolion, ystadegau ariannu cymharol a chyfleusterau ariannu allanol.
 
 

Y Fformiwla Dosbarthu


Mae’r rheoliadau’n darparu i’r Awdurdodau Lleol ymgynghori â’r Fforwm ar newidiadau i fformiwla ariannu ysgolion yr Awdurdod ac effaith ariannol unrhyw newidiadau.
 

Contractau


Noda’r rheoliadau fod yn rhaid i’r Awdurdod Lleol ymgynghori â’r Fforwm ar gontractau i gyflenwyr a gwasanaethau sy’n uwch na’r trothwy cyfredol ar gyfer caffael. Y trothwyon cyfredol ar gyfer Caffaeliadau, yr ymdrinnir â nhw dan gyfarwyddebau caffael yr Undeb Ewropeaidd, a’r Rheoliadau sy’n eu gweithredu yn y DU, yw:
 
Gwasanaethau:     £172,514
Cyflenwadau:     £172,514
Gwaith:     £4,322,012
 
 

Materion Ariannol


Bydd angen i’r Awdurdod hefyd ymgynghori â’r Fforwm yn flynyddol ar gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â chyllideb yr ysgol a newidiadau i gynlluniau ariannol. Mae hefyd yn ymgynghori â’r Fforwm ar unrhyw faterion eraill yn ymwneud ag ariannu ysgolion. 
​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd