Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Aelodaeth

Mae’r rheoliadau’n pennu isafswm aelodau ar bob fforwm, sef 15. Er nad oes uchafswm, nodir y dylai o leiaf un aelod ysgol fod yn rhiant lywodraethwr ac na ddylai mwy na 25% fod yn aelodau o’r tu allan i’r ysgol. Mater i’w benderfynu arno’n lleol gan Benaethiaid a Llywodraethwyr yw cydbwysedd yr aelodau ysgol.
 
Gan ystyried maint a naws ysgolion Caerdydd, defnyddir yr Aelodaeth ganlynol:
 


Aelodau Ysgol

Ceisir enwebiadau ar gyfer aelodaeth drwy’r Cynadleddau Penaethiaid ar gyfer cynrychiolwyr ysgolion. Bydd hyd at 5 cynrychiolydd o ysgolion uwchradd ac 8 o ysgolion cynradd.

 
Ceisir enwebiadau gan Gymdeithas Llywodraethwyr Caerdydd ar gyfer Cynrychiolwyr Llywodraethwyr. Bydd hyd at 3 chynrychiolydd o ysgolion cynradd a 2 o ysgolion uwchradd, gydag un o ysgol arbennig.  Bydd aelodau sy’n ‘eilyddio’ yn cael gwybod ymlaen llaw a oes angen iddynt fynychu cyfarfod.
 
Penodir grŵp o aelodau sy’n ‘eilyddio’ a fydd yn cynrychioli’r holl randdeiliaid.  Ceisir enwebiadau am aelodau sy’n ‘eilyddio’ gan Gynadleddau Penaethiaid a Chymdeithas Llywodraethwyr Caerdydd. Bydd hyd at 6 o’r aelodau hyn; 4 o ysgolion cynradd a 2 o ysgolion uwchradd. Bydd aelodau sy’n ‘eilyddio’ yn cael gwybod ymlaen llaw a oes angen iddynt fynychu cyfarfod.
 

Aelodau nad ydynt o’r Ysgol


Bydd Cynrychiolwyr nad ydynt o’r Ysgol yn cynnwys:
 
  •     Yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol dros Ysgolion, ac un Aelod Etholedig arall
  •     Cynrychiolydd o’r Awdurdodau Esgobaethol
  •     Cynrychiolydd o undebau staffio athrawon yn yr ysgol
  •     Cynrychiolaeth o blith undebau staff cymorth yn yr ysgol
 
 
Bydd pob aelod yn cyflawni’r rôl am dair blynedd.
 
 

Cadeirydd


Yn unol â’r rheoliadau, mae’n rhaid i’r Fforwm enwebu ac ethol Cadeirydd priodol a fydd yn y swydd am ddwy flynedd.   Bydd y Fforwm hefyd yn enwebu ac yn ethol rhywun i fod yn Is-gadeirydd dros yr un cyfnod.  Bydd cyfnod y swydd yn dechrau ar 1 Medi ac yn para drwy’r flwyddyn academaidd. 
 

Mynychwyr eraill


Bydd y Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol ac Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes a/neu eu cynrychiolwyr yn mynychu cyfarfodydd fel arsylwyr ac yn rhoi cyngor technegol a chymorth i’r grŵp.
 
Caiff y Fforwm ei gefnogi a’i hwyluso gan swyddogion yr Awdurdod Lleol, gan gynnwys y Pennaeth Perfformiad, Adnoddau a Gwasanaethau, y Rheolwr Ysgolion a Rheoli Cyllidebau a’r Rheolwr Busnes.
 
Gwahoddir ymgynghorwyr arbenigol i ddod i gyfarfodydd yn ôl yr angen.
Hefyd, mae modd gwahodd cydweithwyr sydd â diddordeb, rôl neu gyfrifoldeb ym maes ariannu addysg i ddod i gyfarfodydd fel arsylwyr, yn ôl y gofyn.



Treuliau Aelodau

Ar hyn o bryd, nid ad-delir aelodau am gostau sy’n gysylltiedig â mynychu’r cyfarfodydd hyn. ​


 
 
​​​​ ​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd