Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Presenoldeb yn yr Ysgol

Rdym yn deall y gall fod yn anodd sicrhau bod eich plant yn codi ac yn gadael yn brydlon i fynd i'r ysgol bob bore, yn enwedig os na fydd eich plentyn am fynd i'r ysgol am ryw reswm.  

Ond dylai eich plentyn fynd i'r ysgol er ei les ef, felly dyma rai ffyrdd defnyddiol i'w annog i adael y tŷ a chyrraedd yr ysgol yn brydlon. 

Beth alla i ei wneud i sicrhau bod fy mhlentyn yn mynd i'r ysgol?

  • Sicrhewch eich bod chi'n gyfarwydd â pholisi presenoldeb yr ysgol - mae gan bob ysgol bolisi o'r fath.
  • Sicrhewch fod eich plentyn yn cyrraedd mewn da bryd ar gyfer sesiynau'r bore a sesiynau'r prynhawn.  
  • Os byddwch chi'n amau bod eich plentyn yn colli diwrnodau ysgol, neu'n amau nad yw'n hapus yn yr ysgol, cysylltwch â'r ysgol neu'r Gwasanaeth Lles Addysg cyn gynted â phosibl. Gallant helpu i ddatrys unrhyw anawsterau a chynnig cyngor cyfeillgar.
  • Os bydd eich plentyn yn colli diwrnodau ysgol, cysylltwch â'r ysgol. Bydd staff yr ysgol yn gweithio gyda chi i helpu i wella'r sefyllfa. Mae'n syniad da cysylltu â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i'ch helpu.
  • Os bydd eich plentyn i ffwrdd am resymau eraill fel apwyntiad gyda'r meddyg neu'r deintydd, rhowch wybod i'r ysgol ymlaen llaw.
  • Sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod nad ydych chi'n cytuno â cholli'r ysgol am unrhyw reswm, ond cadwch lygad allan am unrhyw resymau penodol am beidio â mynd i'r ysgol, fel bwlio, anawsterau gyda gwaith ysgol.
  • Dangoswch ddiddordeb yn addysg eich plentyn, gofynnwch iddo beth wnaeth yn yr ysgol a cheisiwch weld a yw'n cael unrhyw drafferthion a chofiwch gynnig cymorth. Os na fyddwch chi'n gallu helpu, siaradwch â'r ysgol a rhowch wybod am unrhyw drafferthion. 

Rwy'n cael trafferth anfon fy mhlentyn i'r ysgol o hyd

Paid â phoeni. Gallwch ein ffonio a byddwn yn hapus i’ch helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn ni. Gallwch ffonio 029 2087 3619 yn ystod oriau ysgol arferol. 

Byddwn yn gweithio gyda chi a'r ysgol i sicrhau bod eich plentyn yn cael cymorth neu'n mynd i'r afael ag unrhyw faterion a allai fod yn eu hatal rhag mynd i'r ysgol.  

Mae'n well cysylltu â ni yn gyntaf fel y gallwn sicrhau bod camau'n cael eu rhoi ar waith i'ch helpu.

Os ydych yn poeni neu’n teimlo bod problem o ran presenoldeb eich plentyn, mae bob tro’n well siarad â’r ysgol yn gyntaf.  Os yw'ch plentyn mewn ysgol uwchradd, gofynnwch am gael siarad â Swyddog Presenoldeb yr Ysgol sydd wedi ei leoli yn yr ysgol.

Os yw'ch plentyn mewn ysgol gynradd neu ysgol arbennig, gellir cysylltu â'ch Swyddog Presenoldeb Ysgol yn eich Ysgol Uwchradd leol.


Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyngor ar y canlynol:

  • Materion presenoldeb ysgol
  • Bwlio
  • Sut i gael cyngor a chymorth gan asiantaethau eraill ar faterion sy'n ymwneud â phresenoldeb neu fwlio

 


I gael rhagor o wybodaeth.

Cysylltu â ni

​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd