Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hyfforddiant a chymorth

​​Mae tanysgrifio i’n cytundeb lefel gwasanaeth Gwasanaethau Llywodraethwyr a Hyfforddiant yn darparu’r canlynol i lywodraethwyr, clercod a phenaethiaid:

 

Sesiynau hyfforddi canolog

 

Mae Gwasanaethau Llywodraethwyr yn cynnig sesiynau hyfforddi i lywodraethwyr, clercod a phenaethiaid sydd o:

 

  • Safon uchel a phwrpasol
  • Ar gael yn ystod y dydd a gyda’r nos
  • A ddarperir gan weithwyr proffesiynol cymwys a phrofiadol
  • Yn cynnwys dogfennaeth gynhwysfawr
 
Cynhelir Llyfryn Hyfforddiant Llywodrae​thwyr yn flynyddol  a darperir sesiynau diweddaru drwy gydol y flwyddyn.  Mae’r hyfforddiant yn delio ag ystod lawn o bynciau gan gynnwys hyfforddiant gorfodol i lywodraethwyr, penaethiaid, cadeiryddion llywodraethwyr a chlercod.  Mae’r rhaglen yn cael ei hadolygu’n gyson ar ôl ymgynghori â llywodraethwyr ac er mwyn ymateb i’r newidiadau i’r gyfraith sy’n effeithio ar lywodraethu ysgolion.

Gall llywodraethwyr hefyd fynychu hyfforddiant mewn Awdurdodau Lleol eraill ar 
draws y rhanbarth. 
Caiff llywodraethwyr eu gwahodd i fynychu cynadleddau a chyfarfodydd achlysurol ar amrywiaeth o bynciau a gynhelir gan Gymdeithas Llywodraethwyr Caerdydd a Llywodraethw​yr Cymru​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Mae cyfle i Gyrff Llywodraethu fanteisio ar y canlynol ar gais:
 
  • Hyfforddiant i ysgolion clwstwr
Mae tanysgrifio i’n gwasanaeth yn cynnig:
 
  • Llinell gymorth i drafod yr holl faterion sy’n ymwneud â llywodraethu i lywodraethwyr, penaethiaid a chlercod
  • Pecyn Sefydlu i lywodraethwyr newydd
  • Hwyluso’r gwaith o benodi clerc i’r ysgolion sy’n gwneud cais am hynny
  • Cylchlythyr llywodraethwyr rheolaidd i bob llywodraethwr
  • Gwybodaeth am unrhyw newidiadau i’r gyfraith sy’n effeithio ar gyrff llywodraethu
  • Offeryn llywodraethu i gyrff llywodraethu
  • Rhestr aelodaeth a manylion cyswllt pob corff llywodraethu
  • Cyngor ar recriwtio a phenodi llywodraethwyr
  • Rhestr o’r holl lywodraethwyr sy’n dilyn hyfforddiant canolog/clwstwr
  • Rhoi gwybod i ysgolion am swyddi rhiant-lywodraethwyr gwag oherwydd bod y tymor gwasanaethu yn dod i ben a chyngor a chyfarwyddyd ar bob agwedd ar y broses o ethol rhiant-lywodraethwr
  • Cynnig templedi i ysgolion ar gyfer prosesau enwebu ac ethol rhiant-lywodraethwyr
Rydym ni’n gwneud pob ymdrech i sicrhau y cynhelir y sesiynau hyfforddi sydd wedi’u trefnu, ond pan fydd pobl yn tynnu’n ôl neu pan fydd y niferoedd yn isel nid yw’n ymarferol cynnal cwrs ar gyfer grŵp bach iawn.  Mewn achosion fel hyn, efallai y byddwn yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r cwrs ac un ai cynnig ei gynnal ar adeg arall neu mewn canolfan arall, neu ystyried dulliau eraill o sicrhau eich bod yn cael y cyfarwyddyd a’r cymorth sydd ei angen arnoch.


Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwasanaeth.  Os nad ydych yn hapus ag unrhyw un o’n gwasanaethau, neu os ydych am awgrymu sut gallwn wella ein gwasanaeth i fodloni eich anghenion yn fwy priodol, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

029 2087 2714
 
​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd