Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd

​​​​​​​​​​​​​​​​Gallwch ofyn am newid ysgol i'ch plentyn ar unrhyw adeg o'i addysg.

Gall fod oherwydd eich bod:

  • yn symud i Gaerdydd, neu
  • yn cael problemau yn eich ysgol bresennol.




Trafodwch y sefyllfa gyda phennaeth eich plentyn os ydych chi'n ystyried newid ysgol am resymau ar wahân i symud tŷ.


Ystyried y tarfu








Gall newid ysgol darfu ar addysg eich plentyn. Yn enwedig os ydyn nhw ym mlwyddyn 10 neu 11.

Os ydych yn gofyn am drosglwyddiad ysgol ar gyfer eich plentyn, dylech ystyried a all yr ysgol newydd gynnig y cyrsiau a'r pynciau yr oedd eich plentyn yn eu gwneud.

Unwaith y bydd cyrsiau TGAU yn dechrau, nid yw bob amser yn bosib parhau i astudio'r un pynciau mewn ysgol arall.

Gall hyn effeithio ar nifer yr arholiadau TGAU y gallai eich plentyn lwyddo ynddynt.

Hyd yn oed os yw'r ysgol newydd yn cynnig y cyrsiau, efallai eu bod nhw'n llawn eisoes.

Trafodwch gyda'r ysgolion cyn gwneud unrhyw benderfyniadau neu drefniant terfynol.​​



Cyn ystyried newid ysgol, siaradwch ​â'ch plentyn a'r staff ysgol i geisio datrys y broblem.​


Efallai y byddwch yn ystyried gofyn am newid ysgol i'ch plentyn am resymau ar wahân i symud tŷ, gan gynnwys:

methu ysgol, bwlio, gwahardd, anghenion dysgu ychwanegol, amaterion eraill.

Gellir datrys y rhan fwyaf o'r materion hyn heb newid ysgolion. 

Ystyriwch yn ofalus ai trosglwyddo yw'r dewis gorau ar gyfer eich plentyn.

Methu ysgol

Siaradwch â'ch plentyn a cheisiwch ddarganfod y rhesymau pam nad yw'n mynychu'r ysgol.

Gallwch hefyd siarad â'i athrawon.

Bwlio

Cysylltwch â’ch ysgol a gofynnwch am gopi o’i pholisïau diogelu, bwlio neu les emosiynol.

Gadewch i'r ysgol wybod os ydych chi'n meddwl nad ydyn nhw'n dilyn y polisïau hyn.

Mae gan ysgolion yr adnoddau i ddelio â bwlio ac maen nhw’n gyfrifol am fynd i'r afael ag e.

Cysylltwch â'r pennaeth neu fwrdd y llywodraethwyr os ydych yn credu nad ydynt yn delio â bwlio’n briodol.

Gwahardd

Siaradwch ag athro, pennaeth blwyddyn neu bennaeth eich plentyn.

Holwch a nododd yr ysgol fod gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig, neu a oes ganddo gynllun cymorth bugeiliol.
Os felly, gofynnwch am adolygiad o’r Cynllun Cymorth Bugeiliol.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Os credwch fod gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol, siaradwch â'r athro sy'n gyfrifol am anghenion ychwanegol (Cydlynydd ADY) yn yr ysgol.

Gallwch gysylltu â thîm gwaith achos ADY ar 029 2233 0711.

Materion eraillTrafodwch eich pryderon â’r pennaeth blwyddyn, athro dosbarth neu’r pennaeth.

Gallwch godi’r mater â’r bwrdd llywodraethwyr os credwch nad yw’r ysgol yn ymateb yn briodol. 
Rhaid i’r cwynion hyn gael eu cymryd o ddifrif.


Gwneud cais am newid ysgol

Mae’n rhaid i ni roi gwybod i ysgol bresennol eich plentyn os ydych yn gofyn am newid ysgol.


Gwneud cais am newid ysgol ​​ 




Darllenwch ein canllawiau ar wneud cais am le mewn ysgol i gael help gyda'ch cais.

​Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb, pa bynnag iaith rydych yn ei siarad gartref. Mae teuluoedd o bob math yn elwa ar addysg Gymraeg: teuluoedd nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg a rhai sydd yn ei siarad hi; teuluoedd o bob math o gefndir ethnig a chrefyddol; teuluoedd o Gymru a’r rhai sydd wedi symud yma o rywle arall.

Mae addysg Gymraeg yn galluogi plant i ddod yn gwbl rugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gall roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i'ch plentyn. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am addysg Gymraeg yma.

Dysgu am ​​a​ddysg Gymraeg​​
 
Os ydych chi'n ystyried ysgol ffydd, cysylltwch yn uniongyrchol â'r ysgol i holi am argaeledd. 

Gweld Ysgolion ffydd yng Nghaerdydd (1.3mb PDF)​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd



Ar ôl ymgynghori, mae'r Cyngor wedi penderfynu ar drefniadau derbyn ar gyfer blwyddyn ysgol 2023/2024, sy'n cynyddu’r Nifer Derbyn Cyhoeddedig yn Ysgol Gyfun Radur o 210 o leoedd i 240 o leoedd. 

Mae'r Cyngor hefyd wedi cytuno â Chorff Llywodraethu Ysgol Gyfun Radur i weithredu'r cynnydd i'r nifer derbyn ym Mlynyddoedd 7-10, ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/2023.​​
 

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni ar-lein am ragor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Cysylltu â ni

© 2022 Cyngor Caerdydd