Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Derbyniadau i ysgolion meithrin

​​

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Mae gan blant hawl i gael lle rhan-amser mewn meithrinfa o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.

Byddant yn aros yn yr ysgol feithrin tan y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed pan fyddant yn dechrau’r ​dosbarth derbyn yn yr ysgol.

Mae ceisiadau wedi cau. Os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau i wneud cais am le meithrin i ddechrau ym mis Medi 2024, cwblhewch gais hwyr.​

Cwblhewch y ffurflen gais hwyr

Mewngofnodwch i’r system Derbyn i ysgolion
Gallwch weld dyddiadau pwysig ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol.

I gael rhagor o wybodaeth am dderbyniadau, darllenwch y llyfryn derbyn i ysgolion 2024 i 2025 (6.9m​​b PDF)​.​

​​

​​


​Addysg Gymraeg

​​​Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb, pa bynnag iaith rydych yn ei siarad gartref.​

Mae teuluoedd o bob math yn elwa ar addysg Gymraeg: teuluoedd nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg a rhai sydd yn ei siarad hi, teuluoedd o bob math o gefndir ethnig a chrefyddol, teuluoedd o Gymru a’r rhai sydd wedi symud yma o rywle arall. 

Mae addysg Gymraeg yn galluogi plant i ddod yn gwbl rugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gall roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i'ch plentyn.


​ ​

Y Bro​​ses ymgeisio​


​Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2021 a 31 Mawrth 2022
​​​​Dyddiad​Cam yn y broses ymgeisio
29 Ionawr 2024 ​

Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Ysgol Feithrin ym mis Medi 2024 yn cychwyn. Bydd y gwasanaeth Ymgeisio Ar-lein yn agor.​​

26 Chwefror 2024

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.

​Chwefror i Ebrill 2024​

​​​Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni.​​

​7 Mai 2024​​

​Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn.

​Mai 2024

Creu rhestrau aros​.

21 Mai 2024

​Dyddiad olaf i chi wrthod lle a gynigiwyd i chi. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.​

​Mehefin 2024

​Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu.

Gorffennaf 2024

​Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen.

Medi 2024

Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin​.



​​Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021​
Dyddiad
​​Cam yn y broses ymgeisio
​​
5 Mehefin 2023

Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Ysgol Feithrin yng Ngwanwyn Haf 2024 yn cychwyn. Bydd y gwasanaeth Ymgeisio Ar-lein yn agor.​​

3 Gorffennaf​ 2023

​Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.

​Gorffennaf i Medi 2023

​Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni.​​​​​

2 Hydref 2023 

​Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn.

​Hydref 2023

​Creu rhestrau aros​.​​

16​ ​Hydref ​2023

​Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.

Tachwedd 2023​

​​Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu

Rhagfyr 2023

​Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. ​

​Tymor y Gwanwyn i dymor yr Haf 2024​​

​Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin​.​

​Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar-lein:​

Cysylltu â ni


Neu ffoniwch C2C ar 029 2087 2088.​



© 2022 Cyngor Caerdydd