Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Amgylchiadau arbennig

​​​​​​​​​​​​​​​​Darllenwch ein canllawiau ar amgylchiadau arbennig a allai effeithio ar gais eich plentyn i ddechrau yn yr ysgol neu eich dewis o ysgol.


Byddwn ond yn derbyn cais gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.  Pan rennir y cyfrifoldeb rhiant, dylai pob rhiant fod yn cytuno ynglŷn â'r dewisiadau a restrir yn y cais. Cyfrifoldeb y rhieni yw dod i gytundeb o ran unrhyw gais a wneir.

Os na allwch gytuno pa ysgol y dylai eich plentyn ei mynychu, dylech gymryd eich cyngor cyfreithiol eich hun ar unwaith ynghylch gwneud cais brys i'r Llys.  Os byddwn yn derbyn dau gais gan rieni sydd â chyfrifoldeb rhiant a rennir, byddwn yn gweinyddu'r cais cyntaf a gyflwynir er mwyn lleihau unrhyw oedi cyn i'r plentyn gael ei dderbyn i ysgol.
At ddibenion derbyn, mae plentyn sy’n derbyn gofal yn blentyn sydd yng ngofal yr Awdurdod Lleol. Mae hyn yn cynnwys plentyn sy’n dod o dan Orchymyn Gofal neu orchymyn Gofal Dros Dro. Os yw’r plentyn dan ofal yr Awdurdod Lleol ar hyn o bryd, mae gan y Cyngor ddyletswydd i roi lle i’r plentyn ​hwnnw hyd yn oed os yw gwneud hynny’n mynd dros y nifer derbyn. 

Mae plentyn a arferai dderbyn gofal yn blentyn a arferai fod dan ofal yr Awdurdod Lleol, ond nid yw mwyach. Er enghraifft, os mabwysiadwyd plentyn neu ei fod yn destun gorchymyn gwarchodaeth arbennig, mae’n blentyn a arferai dderbyn gofal. Os arferai’r Awdurdod Lleol ofalu am y plentyn, mae dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau bod y plentyn ar frig y rhestr dyraniadau. Ni fydd hyn yn fwy na’r nifer derbyn.​
​​​​
Mae’r Cyngor yn gofyn i’r gweithiwr cymdeithasol ysgrifennu llythyr i gadarnhau a yw plentyn yn un sydd wedi derbyn gofal.​
Efallai eich bod yn teimlo bod yn rhaid i’r plentyn fynd i ysgol benodol am resymau meddygol neu gymdeithasol. Mewn achosion o’r fath, rhaid bod gennych argymhellion ysgrifenedig gan ymgynghorydd meddygol (nid Meddyg Teulu) neu weithiwr cymdeithasol. 

Rhaid i’r llythyr fod wedi ei ddyddio dim llai na chwe mis cyn y dyddiad y gwnewch gais am ysgol, a chynnwys rhesymau manwl i egluro pam ei bod yn angenrheidiol i’ch plentyn gael ei dderbyn i ysgol a enwir yn benodol. Mae’n bwysig bod y llythyr yn nodi pam y byddai’r ysgol benodol yn bodloni anghenion y plentyn yn well nag ysgolion eraill. 

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi’r wybodaeth hon gyda’ch cais erbyn y dyddiad cau. Cysylltwch â’r Tîm Derbyn i Ysgolion os oes angen eglurhad pellach arnoch – cyn i chi gyflwyno eich cais.​​
Derbynnir cyfeiriad yn y dyfodol yn achos Personél Lluoedd Arfog y DU os caiff y ffurflen gais ei hanfon gyda llythyr swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn sy’n datgan dyddiad dychwelyd pendant a chadarnhad o’r cyfeiriad newydd.

​​
​ ​
© 2022 Cyngor Caerdydd