Mae plant yn dechrau yn y Dosbarth Derbyn yn y mis Medi wedi eu pen-blwydd yn bedair oed. Bydd rhieni plant sydd mewn meithrinfa ysgol yng Nghaerdydd yn derbyn manylion y broses o wneud cais.
Gallwch wneud cais am le mewn dosbarth derbyn mewn unrhyw ysgol gynradd yng Nghaerdydd.
Gwasanaethir pob ardal o Gaerdydd gan ysgol gynradd gymunedol Gymraeg, ysgol gynradd gymunedol Saesneg, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgol Gynradd Gatholig.
Nid oes angen i chi siarad Cymraeg na Saesneg adre, neu ddilyn ffydd benodol i wneud cais am le mewn unrhyw un o'r ysgolion hyn.
Gallwch
gweld manylion eich ysgolion agosaf a dalgylchoedd gan ddefnyddio'r tab Ysgolion Agosaf (Y pellterau uniongyrchol ac nid y llwybrau cerdded diogel fydd y pellterau).
Mae ceisiadau ar-lein ar gyfer Derbyn 2023 bellach ar gau.
Gweld rhestr o ysgolion ffydd yng Nghaerdydd (545kb PDF).
Negeseuon e-bost a llythyrau yn cynnig lle mewn ysgol
Byddwch yn derbyn eich cynnig naill ai drwy e-bost neu lythyr o 17 Ebrill 2023.
Byddwch yn cael un o’r cynigion canlynol:
- Lle yn eich dewis cyntaf o ysgol
Rhaid i chi ymateb erbyn 2 Mai 2023.
Gallwch:
- Derbyn neu wrthod ar-lein drwy fewngofnodi i’r system Ceisiadau Ysgolion.
- Anfon e-bost atom gyda’ch penderfyniad derbyniadaucynradd@caerdydd.gov.uk.
Os na dderbyniwn eich ymateb erbyn 2 Mai 2023, byddwn yn cymryd nad ydych eisiau’r lle mwyach ac mae’n bosibl y tynnwn y cynnig yn ôl a’i roi i blentyn arall.
Ar ôl i chi dderbyn y lle, bydd yr ysgol yn cysylltu â chi gyda manylion ynghylch y trefniadau derbyn.
Mewngofnodwch i’r system Derbyn i ysgolion
Os ydych wedi gwneud cais yn hwyr neu eich bod wedi gofyn am ohebiaeth drwy’r post, byddwch yn derbyn un o’r llythyron canlynol:
Am rhagor o wybodaeth am dderbyniadau, darllenwch y llyfryn derbyn i ysgolion:
Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Addysg Gymraeg
Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb, pa bynnag iaith rydych yn ei siarad gartref.
Mae teuluoedd o bob math yn elwa ar addysg Gymraeg: teuluoedd nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg a rhai sydd yn ei siarad hi; teuluoedd o bob math o gefndir ethnig a chrefyddol; teuluoedd o Gymru a’r rhai sydd wedi symud yma o rywle arall.
Mae addysg Gymraeg yn galluogi plant i ddod yn gwbl rugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gall roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i'ch plentyn.
Y Broses ymgeisio
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2018 a 31 Awst 2019
Dydd Llun 14 Tachwedd 2022
| Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2023 yn cychwyn. |
Dydd Llun 9 Ionawr 2023
| Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.
|
Chwefror i Ebrill 2023
| Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni. |
Dydd Mercher 17 Ebrill 2023
| Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn. |
Ebrill 2023
| Creu rhestrau aros.
|
Dydd Mawrth 2 Mai 2023
| Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
Mehefin 2023
| Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu.
|
Gorffennaf 2023
| Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. |
Medi 2023
| Plant yn dechrau yn yr ysgol yn llawn amser.
|
Derbyniadau Cydlynol
Yr ysgolion ffydd sy'n rhan o'r cynllun derbyniadau cydlynol yw:
- Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Yr Holl Seintiau,
- Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Esgob Childs,
- Ysgol Gynradd Gatholig Crist y Brenin,
- Ysgol Gynradd Gatholig y Teulu Sanctaidd,
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban,
- Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Bernadette,
- Ysgol Gynradd Gatholig Cadog Sant,
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Cuthbert,
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant,
- Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Sain Ffagan,
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Ffransis,
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff,
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru’r Forwyn Fair,
- Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair,
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg*,
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica,
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru’r Sant Paul,
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Pedr,
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans,
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegarville
*Noder bod 15 o leoedd ysgol yn cael eu dyrannu gan ddefnyddio polisi Derbyn i Ysgolion 2023/24 y Cyngor a bod 15 lle arall yn cael eu dyrannu gan yr ysgol yn unol â’u polisi derbyn.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar-lein:
Cysylltu â ni
Neu ffoniwch C2C ar 029 2087 2088.