Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Panel Apeliadau Addysg Annibynnol

Mae Cyngor Caerdydd am benodi aelodau o'r cyhoedd o ystod eang o gefndiroedd i'w Banel Apeliadau Addysg Annibynnol.  Mae'r panel pwysig a diduedd hwn yn gwrando ar apeliadau a wneir gan rieni yn erbyn penderfyniadau sy'n ymwneud â derbyniadau i ysgolion a gwaharddiadau parhaol.  

Mae pob ysgol gymunedol, rhai Cymraeg a Saesneg, yng Nghaerdydd yn cael eu gwasanaethu gan Banel Apeliadau Ysgolion Annibynnol.

Y Paneli


Mae'r Paneli'n cynnwys aelodau lleyg ac addysg ac mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am y ddau.

Ni ddylai aelodau lleyg fod ag unrhyw brofiad addysgu blaenorol nac wedi bod yn rhan o'r gwaith o reoli ysgol.  Fodd bynnag, ni fyddai profiad fel Llywodraethwr Ysgol neu helpu ysgol yn wirfoddol yn eich eithrio o'r categori hwn.

Byddai gan aelodau addysg brofiad mewn ysgolion, a byddant yn gyfarwydd â'r amodau addysgol yn ardal Caerdydd neu'n rhiant i blentyn mewn ysgol yng Nghaerdydd.

Mae'r Paneli'n cynnwys o leiaf 3 aelod hyfforddedig ac fe'u cefnogir gan Glerc sy'n cynghori'r Panel ar bwyntiau cyfreithiol a’r weithdrefn yn ystod y gwrandawiad.  

Rhaid i aelodau'r panel sicrhau bod rhieni'n cael gwrandawiad teg ac annibynnol a'u bod yn cael pob cyfle i gael gwrandawiad ar gyfer eu hachos.  Rhaid i'r Panel asesu'r dystiolaeth a roddwyd gerbron i benderfynu ar bob apêl, gan wneud penderfyniadau ar sail y ddeddfwriaeth a'r codau angenrheidiol.

Pa rinweddau sydd eu hangen arnaf?


Er bod hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu, mae angen y sgiliau a'r galluoedd canlynol ar aelodau'r panel apeliadau:

  • Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth a thynnu ffeithiau perthnasol allan.
  • Profiad o bwyso a mesur gwybodaeth a gwneud penderfyniadau gwrthrychol.  
  • Gwrando’n astud.
  • Ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a hawliau dynol.  
  • Profiad o weithredu o fewn fframwaith polisi neu ddeddfwriaethol.  
  • Y gallu i ofyn cwestiynau perthnasol ac egluro materion.  
  • Ymrwymiad i gyfrinachedd.



Gofynion hanfodol


Rhaid i chi ddangos eich bod yn bodloni’r gofynion hyn:

  • Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth a thynnu ffeithiau perthnasol allan.
  • Profiad o bwyso a mesur gwybodaeth a gwneud penderfyniadau gwrthrychol.  
  • Gwrando’n astud.
  • Ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a hawliau dynol.  
  • Profiad o weithredu o fewn fframwaith polisi neu ddeddfwriaethol.  
  • Y gallu i ofyn cwestiynau perthnasol ac egluro materion.  
  • Ymrwymiad i gyfrinachedd.

Aelodau'r panel addysg


Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais i fod yn aelodau o'r panel addysg hefyd ddangos bod ganddynt naill ai,

  • Brofiad mewn addysg,
  • Yn gyfarwydd ag amodau addysgol yng Nghaerdydd, neu Ar hyn o bryd yn rhiant neu'n ddisgybl sydd wedi'i gofrestru mewn ysgol yng Nghaerdydd.  

Aelodau lleyg y panel


Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais i fod yn aelodau lleyg y panel hefyd ddangos eu bod HEB,

  • Wedi cael profiad o reoli unrhyw ysgol, ac,
  • Darparu unrhyw fath o addysg mewn unrhyw ysgol.



DS Byddai ceisiadau sydd â phrofiad fel llywodraethwr ysgol neu wirfoddoli mewn ysgol yn cael gwneud cais.  
 

Hyd



Cynhelir gwrandawiadau apêl rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.   Mae Paneli Apeliadau yn eistedd drwy gydol y flwyddyn er bod y rhan fwyaf o apeliadau'n cael eu clywed rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf.  Nid oes isafswm ymrwymiad amser ar gyfer aelodau'r panel ac mae paneli apeliadau yn aml yn cael eu trefnu fel eu bod yn eistedd am hanner diwrnod neu ddiwrnodau llawn.  Yn ystod oriau brig, efallai y gofynnir i aelodau'r panel a allent fod ar gael am wythnos lawn.  

Oherwydd COVID-19, mae gwrandawiadau panel yn cael eu cynnal o bell ar hyn o bryd drwy gyfleusterau fideo-gynadledda tan o leiaf 30 Medi 2022.  

Beth mae'r rôl yn ei gynnig i chi


Er bod y rôl bwysig hon i wirfoddolwyr yn ddi-dâl, telir treuliau a chostau teithio rhesymol ar gyfer gwrandawiadau wyneb yn wyneb a gallant ddarparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn y swyddogaeth hollbwysig hon.  


Gwnewch Gais Nawr



Lawrlwythwch ffurflen gais aelod o'r panel (PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Clerc Apeliadau Ysgol.

Cysylltu â ni



029 2087 2472

© 2022 Cyngor Caerdydd