Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Apelio penderfyniad am le mewn ysgol

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Os gwrthodir lle i’ch plentyn mewn Ysgol Gymunedol, gallwch gyflwyno apêl i Banel Apeliadau Ysgolion Annibynnol Caerdydd.

Mae aelodau Panel Apeliadau Ysgolion Annibynnol Caerdydd yn gwbl annibynnol ar Gyngor Dinas Caerdydd ac mae eu penderfyniadau’n gyfreithiol rwymol, sy’n golygu os bydd eich apêl yn llwyddiannus rhaid derbyn eich plentyn i’r ysgol. 

Mae aelodau a gwirfoddolwyr y panel wedi’u hyfforddi’n llawn yn y profion cyfreithiol sy’n rhaid eu defnyddio dan y Cod Apeliadau Derbyn i Ysgolion. Gweinyddir y broses Apeliadau gan adran gwasanaethau cyfreithiol Cyngor y Ddinas Caerdydd sy’n Glerc i’r Panel.  

Gall rhieni fynychu gwrandawiad gyda 3 aelod o’r Panel Apeliadau Ysgolion Annibynnol i egluro pam y dylai eu plentyn fynychu ysgol benodol cyn i Aelodau’r Panel wneud penderfyniad ar eu hapêl. 

Os ydych am gyflwyno apêl dylech gwblhau ffurflen Apelio Penderfyniad Derbyn i Ysgol (35kb DOC)​​​​ sy’n nodi eich rhesymau dros apelio. 

Rhaid cyflwyno’r ffurflen drwy e-bost i apeliadauysgolion@caerdydd.gov.uk​ neu i:

Glerc Panel Apeliadau Ysgolion Annibynnol Caerdydd, Ystafell 462, Neuadd Y Sir, Caerdydd CF10 4UW. 

Bydd y dyddiad olaf y gallwch gyflwyno apêl wedi’i nodi yn y llythyr yn cadarnhau gwrthod lle mewn ysgol gymunedol. Os cyflwynwch eich apêl ar ôl y dyddiad hwn, ni chaiff ei derbyn oni allwch ddweud pam na chafodd ei chyflwyno ar amser.

Rhaid gwneud apeliadau i Ysgolion Sefydledig neu Wirfoddol a Gynorthwyir (Ffydd/Eglwys) yn uniongyrchol i’r ysgol.

Rhaid gwneud apeliadau i Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd yn uniongyrchol i'r ysgol.

​ Y broses apelio​

Fel arfer bydd eich apêl yn cael ei chlywed yn breifat, ond os oes mwy nag un apêl ar gyfer yr ysgol mae’n bosib y bydd y cam cyntaf yn cael ei glywed ar ffurf grŵp gyda rhieni eraill sydd wedi apelio. Cynhelir yr apêl mewn 2 ran.

  1. Y​n y rhan gyntaf, bydd Cyngor Caerdydd yn esbonio pam mae wedi gwrthod eich cais a pham byddai’r ysgol yn rhy lawn petai’n derbyn rhagor o ddisgyblion. Bydd hawl gennych i ofyn i Gyngor Gaerdydd esbonio’i resymau dros wrthod. Byddwch chi a chynrychiolwyr Cyngor Caerdydd yn gadael yr ystafell tra bod y Panel yn dod i benderfyniad. ​Os ar y cam hwn fod y Panel yn penderfynu nad oedd angen gwrthod lle, er enghraifft am na fyddai’r ysgol yn rhy llawn, daw’r gwrandawiad i ben a byddwch yn clywed bod yr apêl wedi bod yn llwyddiannus. 

  2. Os yw’r Panel yn penderfynu bod sail i wrthod oherwydd y byddai’r ysgol yn rhy lawn, bydd yr apêl yn ​symud i’r ail gam.

Cynhelir ail ran unrhyw apêl ar sail unigol (preifat). Bydd Cyngor Caerdydd yn esbonio pa ysgolion eraill sydd ar gael, gan ddefnyddio map yn dangos i chi pa mor bell ydyn nhw o’ch cartref. Gallwch wedyn esbonio pam dylai eich plentyn gael lle yn yr ysgol hyd yn oed os yw’n llawn. Gall Cyngor Caerdydd ofyn cwestiynau i chi a gall y Panel hefyd ofyn cwestiynau er mwyn deall yr holl amgylchiadau.​
Ar ôl y gwrandawiad byddwch yn cael e-bost ar ddiwedd y dydd (neu ar ddiwedd y dydd pan fydd pob apêl wedi cael ei chlywed ar gyfer apeliadau grwp) yn cadarnhau a fu eich apêl yn llwyddiannus ai peidio – yr ateb fydd ‘Ie’ neu ‘Na’. Wedi hynny byddwch yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig yn rhoi’r rhesymau dros benderfyniad y Panel o fewn 5 diwrnod gwaith er y gallai hyn fod yn hirach rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf.

Mae penderfyniad y panel apeliadau yn derfynol ac rydych chi a Chyngor Caerdydd yn rhwym wrtho.​ Dim ond y llysoedd all wrthdroi’r penderfyniad os ydych chi neu Gyngor Caerdydd wedi gwneud cais llwyddiannus am Adolygiad Barnwrol o’r penderfyniad.

Os ydych yn ystyried bod camweinyddu wedi digwydd ar ran y Panel, neu fod diffyg sylfaenol yn y ffordd y gwnaeth y Panel gynnal yr achos neu ddod i benderfyniad, mae’n bosib y bydd hawl gennych gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru.​

​ ​
Faint o obaith sydd o lwyddo yn yr apêl?
​​Blwyddyn ysgol
​Nifer yr apeliadau​​​Apeliadau llwyddiannus
​2021 i 2022
​423
​53
​2020 i 2021
​407
​​40
​2019 i 2020
​457
​​39



​​​​​​​​​​​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd