Mae addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) yn ddarpariaeth addysgol a drefnir gan yr awdurdod lleol i ddiwallu anghenion penodol plant a phobl ifanc nad ydynt, am ba reswm bynnag, yn gallu mynychu ysgol brif ffrwd neu ysgol awdurdod lleol.
Plant a phobl ifanc sy’n derbyn AHY yw rhai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed ac mae'n flaenoriaeth sicrhau eu bod yn cael addysg addas, sydd o ansawdd da ac y gallant symud ymlaen ynddi.
Rhai o'r darpariaethau sy'n dod o dan gategori AHY yw Bryn y Deryn, sef ein Huned Cyfeirio Disgyblion (HCD), a'n Tîm Addysgu Cymunedol.
Pan fydd yr awdurdod lleol wedi lleoli dysgwyr mewn ysgolion arbennig annibynnol a rhai nas cynhelir, fel arfer drwy eu Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, yna mae'r darpariaethau hyn hefyd yn cael eu categoreiddio fel AHY.
Cysylltu â ni