Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rolau Statudol Allweddol

Bydd gan bob awdurdod Lleol sawl rôl allweddol sy'n gyfrifol am gydlynu swyddogaethau awdurdodau lleol.​

Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar​​

Bydd gan bob Awdurdod Lleol swyddog dynodedig a elwir yn 'Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar' ('SAADY y Blynyddoedd Cynnar') a fydd yn gyfrifol am gydlynu swyddogaethau'r Awdurdod Lleol o ran plant o dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir. Mae SAADY y Blynyddoedd Cynnar yn rôl strategol a bydd yn gyfrifol am gydlynu swyddogaethau'r awdurdod lleol sy'n cynnwys:

  • Penderfynu a oes gan blant ADY
  • paratoi a chynnal CDUau (gan gynnwys sicrhau'r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) a bennir yn y CDU)
  • adolygu a diwygio CDUau
  • adolygu trefniadau DDdY
  • gwneud trefniadau i roi cyngor a gwybodaeth a chymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau hynny'n hysbys i rieni (ymhlith rhanddeiliaid eraill?).
  • gwneud trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau a hyrwyddo'r defnydd ohonynt
  • gwneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol

Rôl y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynydd ADY)​​​

Mae gan bob ysgol (ac eithrio ysgolion arbennig) aelod o staff a nodwyd i weithredu fel Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (neu Gydlynydd ADY yn fyr). 

Mae'r Cydlynydd ADY mewn ysgol yn gyfrifol am:​​

  • nodi anghenion dysgu ychwanegol (ADY) disgybl a chydlynu'r gwaith o wneud y Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY)
  • sicrhau gwasanaethau perthnasol i gefnogi Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol y disgybl
  • cadw cofnodion o benderfyniadau am ADY a Chynlluniau Datblygu Unigol (CDUau)
  • cysylltu â disgybl a rhieni/gofalwyr y disgybl a darparu gwybodaeth iddynt
  • hyrwyddo cynhwysiant yn yr ysgol a mynediad i gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol yr ysgol
  • cynghori, goruchwylio a hyfforddi staff ysgolion am ddulliau addysgu gwahaniaethol sy'n briodol ar gyfer disgyblion unigol ag ADY, a chyfrannu at hyfforddiant mewn swydd
  • monitro effeithiolrwydd unrhyw Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol a wneir
  • paratoi ac adolygu'r wybodaeth y mae'n ofynnol i gorff llywodraethu'r ysgol ei chyhoeddi

Mae Cydlynydd ADY mewn coleg yn gyfrifol am:​

  • nodi ADY myfyriwr a chydlynu'r gwaith o wneud Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) sy'n bodloni ADY myfyriwr
  • sicrhau gwasanaethau perthnasol a fydd yn cefnogi Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol myfyriwr
  • cadw cofnodion o benderfyniadau am ADY a chynlluniau addysgol (e.e. Cynlluniau Datblygu Unigol neu gyfwerth (CDUau)
  • cysylltu â'r myfyriwr a rhoi gwybodaeth iddo am ADY, CDU y myfyriwr hwnnw a'r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol a gaiff.
  • hyrwyddo cynnwys myfyriwr ag ADY yn y Sefydliad Addysg Bellach a mynediad i gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol y Sefydliad Addysg Bellach
  • paratoi ac adolygu'r wybodaeth y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei chyhoeddi
  • cynghori, goruchwylio a hyfforddi staff am ddulliau addysgu gwahaniaethol sy'n briodol ar gyfer myfyrwyr unigol ag ADY
  • monitro effeithiolrwydd unrhyw Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol a wneir

Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA)​

Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol ddynodi swyddog i fod yn gyfrifol am gydlynu swyddogaethau'r bwrdd iechyd o ran plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Y rôl hon yw Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg – SACDA.

Y SACDA ar gyfer Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yw Natalie Vanderlinden.

 Bydd y SACDA yn gyfrifol am y canlynol:​​​

  • gweithredu'n strategol i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ADY ar lefel weithredol o fewn y Bwrdd Iechyd Lleol a hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio;
  • rhannu arfer gorau gyda'r SACDAau eraill er mwyn helpu i sicrhau ymagweddau safonol ledled Cymru;
  • hyrwyddo dull strategol cyson o fewn y Bwrdd Iechyd Lleol i lywio / cefnogi'r gwaith o nodi ac asesu ADY, paratoi ac adolygu CDUau, cynllunio a darparu DDdY a monitro effaith hynny ar blant a phobl ifanc;
  • rheoli a monitro cydymffurfiaeth â dyletswyddau Byrddau Iechyd Lleol o dan y Ddeddf, a mesur llwyddiant ymyriadau'r Bwrdd Iechyd Lleol.

 

Ymwelwch â Gwefan Gwasanaethau Addysg Caerdydd​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd i gael rhagor o wybodaeth am rolau allweddol.

© 2022 Cyngor Caerdydd