Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Nodi Anghenion Addysgol Arbennig


Yn ôl y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (2018) (ADYTA), mae gan blentyn neu berson ifanc sydd rhwng 3 ac 16 oed Anghenion Dysgu Ychwanegol os:

  • ydyn nhw'n ei chael hi'n sylweddol anoddach dysgu na'r rhan fwyaf o blant o'r un oedran neu
  • os oes ganddyn nhw anabledd sy'n eu hatal/rhwystro rhag defnyddio cyfleusterau ar gyfer addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill o'r un oed.
  • mae gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol (0 i 3 oed) anhawster dysgu neu anabledd os yw ef neu hi yn ??, neu yn debygol o fod os na fyddai darpariaeth dysgu ychwanegol yn cael ei gwneud, pan fydd o oedran ysgol gorfodol.

 

Mae'n bosib y bydd plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol angen mwy o gymorth i ddysgu na'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc o'r un oed. 

Bydd gan rai plant a phobl ifanc anabledd a fydd yn golygu eu bod yn cael trafferth cael mynediad at gyfleusterau addysgol safonol. 

Rhaid i bob ysgol, lleoliad, coleg ac awdurdod lleol gefnogi pob plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys y rhai sydd ag ADY neu'r rhai a allai fod ag ADY. 

Un o egwyddorion y ddeddf ADYTA yw creu addysg gynhwysol i sicrhau, lle bo'n bosibl, bod plant a phobl ifanc ag ADY yn cael eu cefnogi i fynychu addysg brif ffrwd gyda chymorth.

Ymwelwch â gwefan Gwasanaethau Addysg Caerdydd​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd i gael rhagor o wybodaeth ar nodi ADY.  

© 2022 Cyngor Caerdydd