Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu rhieni cymwys gyda 30 awr cyfunol o ofal plant a Darpariaeth Ddysgu Sylfaen (addysg gynnar) a ariennir gan y llywodraeth am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Mae’r 48 wythnos yn cynnwys 39 wythnos o addysg a gofal plant cyfunol adeg tymor ysgol ynghyd â 9 wythnos o ofal plant y tu allan i dymhorau ysgol.
Byddwch yn atebol am unrhyw ofal plant sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod y 4 wythnos na thelir amdanynt. Wythnosau gwyliau ysgol fydd y rhain bob amser.
39 wythnos o addysg a gofal plant cyfunol yn ystod tymor ysgol
Darpariaeth ddysgu sylfaen (addysg gynnar)
| 12.5 awr
|
Cynnig gofal plant
|
17.5 awr |
| = 30 awr
|
9 wythnos o ddarpariaeth ‘wyliau’ y tu allan i dymhorau ysgol
Cynnig gofal plant
| 30 awr |
---|
Mae arian y Cynnig Gofal Plant ar gyfer y gofal plant y mae’r gweithwyr proffesiynol yn y lleoliad yn ei ddarparu. Nid yw’n cynnwys bwyd, trafnidiaeth na gweithgareddau oddi ar y safle y codir cost ychwanegol ar eu cyfer a bydd y darparwyr yn gallu codi ffi arnoch am y rhain.
Os hoffech fanteisio ar y cynllun Gofal Plant Di-dreth i helpu gyda'r costau ychwanegol hyn, bydd angen i chi gyflwyno cais ar wahân ar wefan GOV.UK.
Dysgwch fwy am y Cynllun Gofal Plant Di-dreth.
Rydych yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant os ydych yn byw yng Nghymru, bod gennych blentyn 3 neu 4 oed, a’ch bod naill ai:
- Yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac yn ennill o leiaf yr hyn sy'n cyfateb i 16 awr yr wythnos ar y gyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol a llai na £100,000 y flwyddyn.
- Wedi’ch cofrestru ar gwrs addysg bellach neu gwrs israddedig neu ôl-radd addysg uwch sydd o leiaf 10 wythnos o hyd.
Os oes gennych bartner sy'n byw gyda chi, rhaid iddo hefyd fodloni'r meini prawf.
Os oes gan eich plentyn anghenion ychwanegol, mae arian ychwanegol ar gael. Cysylltwch â ni os gall fod angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn.
Ni allwn gadarnhau a ydych yn gymwys nes ein bod wedi derbyn a phrosesu eich cais gorffenedig.
Gallwch ddewis unrhyw ddarparwr gofal plant sydd wedi cofrestru ar gyfer y Cynnig Gofal Plant ac sydd wedi’i gofrestru hefyd gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Cewch weld a yw eich darparwr dewisol wedi cofrestru ar hyn o bryd drwy gysylltu â'r tîm Cynnig Gofal Plant ar 03000 628 628 neu wirio
Dewis Cymru.
Nid yw gwneud cais yn gwarantu lle gofal plant.
Pryd i wneud cais
1 Medi 2018 i 31 Awst 2019
|
| 31 Awst 2023
| Ar agor
|
1 Medi 2019 i 31 Rhagfyr 2019
| 9 Ionawr 2023
| 31 Awst 2024
| Ar agor
|
1 Ionawr 2020 i 31 Mawrth 2020
| 17 Ebrill 2023
| 31 Awst 2024
| Ar agor |
1 Ebrill 2020 i 31 Awst 2020
| 4 Medi 2023
| 31 Awst 2024
| 6 Mehefin 2023
|
Gwrthodir ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad agor.
Os ydych yn gymwys bydd eich arian yn dechrau ar ôl i chi
sefydlu cytundeb gofal plant gyda'ch darparwr ac ar ôl i’r cytundeb hwn gael ei dderbyn.
Byddwn yn cynnal gwiriadau cymhwysedd bob tymor. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni a'r lleoliad gofal plant os yw eich amgylchiadau wedi newid.
Os yw amgylchiadau eich teulu wedi newid ac nad ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun mwyach, byddwch yn dal i allu manteisio ar y Cynnig am 8 wythnos, gan roi cyfle i chi ddod yn gymwys eto.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych neu os hoffech drafod eich cais, yna cysylltwch â ni.
Ffôn: 03000 628 628
Ebost: cynniggofalplantcaerdydd@caerdydd.gov.uk