Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd

​​​​​​​Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed gymryd rhan ar draws y ddinas.

Mae ein cyfleoedd yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu neu i gynyddu sgiliau presennol i’w helpu i wella CVs neu geisiadau am gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. 

Rydym hefyd yn cynnig gwybodaeth, arweiniad a thrafodaethau ynghylch materion sy’n effeithio ar bobl ifanc o bosibl.

Mae gan Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd ei wefan bwrpasol ei hun sydd wedi’i chynllunio i fodloni anghenion pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid a’r gymuned. Ewch i wefan Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Hefyd gallwch ddilyn Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ar y cyfryngau cymdeithasol:

Canolfannau ieuenctid

Mae nifer o Ganolfannau Ieuenctid yng Nghaerdydd sy’n rhoi ystod eang o weithgareddau i bobl ifanc.
Dewiswch ganolfan o’r rhestr i gael gwybodaeth fanylach:

Rhaglenni a chynlluniau 

Rydym yn cynnal amrywiaeth o raglenni, cynlluniau a phrosiectau ar gyfer pobl ifanc ledled y ddinas.

Dewiswch opsiwn o’r rhestr i gael rhagor o wybodaeth am bob cynllun: 

Cymerwch ran

Mae nifer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.

Dod yn aelod o’r Gwasanaeth Ieuenctid

Gallwch ddod yn aelod o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd os ydych yn berson ifanc rhwng 11 a 25 oed ac yn dymuno cymryd rhan mewn unrhyw un o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig gan ganolfannau ieuenctid.


Gwirfoddoli

Bydd ein cyfleoedd gwirfoddoli yn eich galluogi i gael profiadau mewn lleoliadau Canolfannau Ieuenctid, gan weithio gydag ystod o bobl ifanc. Byddwn hefyd yn eich cefnogi wrth weithio tuag at gymwysterau Gwaith Ieuenctid.




© 2022 Cyngor Caerdydd