Mae Cronfa Pobl Ifanc Caerdydd yn adnodd sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghaerdydd i'w helpu i barhau a datblygu eu haddysg.
Gallwch wneud cais i gael arian gan Gronfa Pobl Ifanc Caerdydd ac i gael Bwrsariaeth Craddock Wells.
Ni dderbynnir unrhyw geisiadau pellach ar ôl dyrannu’r holl arian sydd ar gael mewn blwyddyn ariannol benodol.
Cymhwysedd
- Mae'n rhaid eich bod wedi mynychu ysgol uwchradd yng Nghaerdydd am o leiaf ddwy flynedd
- Gallwch wneud cais am gymorth ariannol tuag at fynychu addysg bellach/uwch neu i'ch cefnogi i fynd i mewn i broffesiwn neu grefft
Gallwch wneud cais am y canlynol:
- Cymorth ariannol tuag at ddillad, offer, offerynnau neu lyfrau i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich proffesiwn, eich crefft neu eich galwedigaeth
- Grant o hyd at 50% o gyfanswm cost mynychu sefydliad addysgol a gymeradwywyd gan y Cyngor
- Ystyrir unrhyw gostau eraill y bernir eu bod yn angenrheidiol ar gyfer dilyn astudiaethau
Cymhwysedd
- Mae'n rhaid eich bod wedi mynychu ysgol gynradd neu ysgol uwchradd yng Nghaerdydd am o leiaf ddwy flynedd
- Mae'n rhaid i chi fod yn byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd
- Mae'n rhaid eich bod wedi aros mewn addysg anstatudol am ddwy flynedd i astudio Safon Uwch neu gymhwyster ar lefel gyfatebol
- Gallwch wneud cais am gymorth ariannol tuag at y costau sy'n gysylltiedig â mynychu cwrs addysg bellach neu uwch
Gallwch wneud cais am y canlynol:
- Bwrsariaethau i gynorthwyo gyda chostau addysgol i ddatblygu eich addysg naill ai fel un taliad neu gyfres o daliadau hyd at uchafswm o 50%
Cymhwysedd
- Mae'n rhaid eich bod yn astudio mewn Ysgol Uwchradd yng Nghaerdydd
Gallwch wneud cais am y canlynol:
- Grant o hyd at £400 i'ch galluogi i orffen eich cwrs astudio mewn Ysgol Uwchradd yng Nghaerdydd
Proses ymgeisio
Gallwch wneud cais i gael arian gan Gronfa Pobl Ifanc Caerdydd neu Elusen Craddock Wells.
I wneud cais am gyllid, mae angen i chi ategu eich cais gyda’r canlynol:
- Tystiolaeth eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ac
- Amcangyfrif o gostau eitemau
Pryd i wneud cais
- Gallwch wneud eich cais cyn prynu eitemau drwy ddefnyddio amcangyfrifon o gostau eitemau.
- Gallwch wneud cais unrhyw bryd yn ystod eich hyfforddiant neu astudiaethau sy'n berthnasol i'r cais.
Bydd angen i chi wneud cais newydd bob blwyddyn academaidd.
Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen gais, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi'i derbyn. Byddwn yn e-bostio ein penderfyniad atoch o fewn 21 diwrnod ar ôl cyfarfod nesaf yr Ymddiriedolwyr.
Efallai y bydd angen mwy o wybodaeth arnom cyn y gallwn wneud penderfyniad. Rhowch gymaint o ddogfennau ategol â phosibl gyda’ch cais i atal unrhyw oedi.
Byddwch yn derbyn taliad grant ar ôl i chi brynu'r eitemau a chyflwyno prawf eich bod wedi’u derbyn.