Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Prydau ysgol am ddim

 ​​Caiff disgyblion cynradd ac uwchradd brydau ysgol am ddim os yw eu teulu’n cael:
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Gysylltiedig ag Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Elfen Gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Treth Plant ag incwm blynyddol sy’n llai na £16,190
  • Credyd Cynhwysol os mae enillion net y teulu yn llai na £7400
 
*Ni all teuluoedd sy’n cael Credyd Treth Gwaith fanteisio ar brydau ysgol am ddim.


Unwaith rydych wedi danfon cais i mewn, byddwch yn cael eich hysbysi yn ysgrifenedig o’r canlyniad. 

Os ydych chi’n gymwys am brydau ysgol am ddim, caiff ysgol eich plentyn ei hysbysu fel y gall ddiweddaru ei gofnodion. 

Caiff prydau ysgol am ddim eu dyfarnu i bob plentyn ar wahân ac nid i’r cartref. 

Nid oes angen i chi ailymgeisio os yw eich plentyn yn symud i ysgol arall yn y fwrdeistref. Pan gawn ein hysbysu gan ysgol newydd eich plentyn ei fod yn ddisgybl yno, byddwn yn diwygio ein cofnodion ac yn hysbysu’r ysgol o’ch cymhwysedd. 


Newidiadau o 1 Ebrill 2019


Bydd unrhyw ddisgybl sy’n gymwys i brydau ysgol am ddim ar y 1 Ebrill 2019 yn cael ei gymhwysedd wedi ei ddiogelu. Bydd hyn yn berthnasol i’r holl ymgeiswyr tan ddiwedd lledaenu Credyd Cynhwysol (sydd wedi ei amserlennu ar hyn o bryd yn Mawrth 2025), boed eu hamgylchiadau’n newid ai peidio. 

Bydd unrhyw ddisgybl sy’n dyfod yn gymwys o dan y meini prawf a ddiwygiwyd yn ystod y cyfnod lledaenu Credyd Cynhwysol (o 1 Ebrill 2019 tan 31 Rhagfyr 2023​) hefyd yn cadw ei gymhwysedd nes diwedd lledaenu Credyd Cynhwysol, boed eu hamgylchiadau’n newid ai peidio. 

Unwaith y bydd y gwaith o gyflwyno’r Credyd Cynhwysol wedi’i gwblhau, bydd y cynllun diogelu trosiannol yn parhau nes bydd y plentyn a ddiogelir d​od at ddiwedd ei gyfnod addysg presennol, fel gorffen yn yr ysgol gynradd neu uwchradd.​ 


Os hoffech fwy o gwybodaeth mae llywodraeth Cymru wedi creu dogfen am Cwestiynau Cyffredin​​​​​​​​​.



I gael rhagor o wybodaeth am brydau ysgol am ddim neu laeth am ddim.   

Cysylltu â ni

Ffôn​: 029 2087 1071​


​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd