Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Pwy sy'n gyfrifol am dalu’r Dreth Gyngor?

​​Y person a enwir ar fil Treth Gyngor sy'n gyfrifol am dalu'r ffioedd.

Os oes rhywun yn byw yn yr eiddo, y preswylydd sydd â'r budd mwyaf yn yr eiddo fel arfer. Megis:
  • Perchen-feddianwyr, a
  • Thenantiaid (ar yr amod nad ydynt yn byw yn yr un eiddo â’u landlord).
 
Bydd perchnogion yn atebol dros eiddo sydd heb ei feddiannu ac ar gyfer eiddo yr ystyrir ei fod yn Dŷ Amlfeddiannaeth. 

Os ydych yn landlord, efallai mai chi sy'n gyfrifol am dalu’r Dreth Gyngor. Darllenwch fwy o wybodaeth am gyfrifoldebau Treth Gyngor i landlordi​aid.​

Cyd-Atebolrwydd


Mae atebolrwydd cyd ac unigol yn derm cyfreithiol sy'n golygu bod pob person sydd â'r un lefel o fudd mewn eiddo yr un mor gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor.
 
Byddwn yn cyflwyno’r bil Treth Gyngor mewn mwy nag un enw os ydych:

  • yn berchen ar eich eiddo ar y cyd â pherson arall neu bobl eraill,
  • â chyd-denantiaeth â pherson arall neu bobl eraill,
  • yn briod,
  • yn rhan o bartneriaeth sifil, neu
  • yn byw gyda rhywun arall fel rhan o gwpl.

​​Yr hawl i apelio

Os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad i'ch gwneud yn atebol dros y tâl, neu os ydych yn credu bod gennych hawl i ostyngiad neu eithriad, yna mae gennych hawl i apelio. 



​​

​​
© 2022 Cyngor Caerdydd