Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cam-drin Domestig

Gallwn eich helpu i ddod o hyd i rywle diogel i aros yn ogystal â'ch helpu i gynllunio at yr hirdymor. 

Os ydych chi'n dioddef, neu'n ofni dioddef cam-drin domestig gallwn eich helpu i wneud cais digartrefedd, a rhoi cefnogaeth arbenigol i chi.

Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

  • Seicolegol
  • Corfforol
  • Rhywiol
  • Ariannol
  • Emosiynol

Mynnwch help nawr

Os hoffech chi wneud cais digartrefedd gallwch ymweld neu ffonio'r gwasanaeth Dewisiadau Tai ar 029 2057 0750 neu gysylltu â’n partneriaid yn RISE Caerdydd​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd ar 029 2046 0566 – ar agor 24/7 ar gyfer yr holl gwasanaeth.

Mae RISE Caerdydd yn darparu cymorth arbenigol ar gam-drin domestig a gall eich helpu i wneud cais i'r digartref. 

Bydd y swyddog yn RISE yn gofyn rhai cwestiynau i chi am eich sefyllfa ac yn rhoi cyngor i chi. Os oes angen, byddwn yn ceisio helpu i ddod o hyd i chi rywle diogel i chi fyw yn y tymor byr.

Efallai y gofynnir i chi am dystiolaeth ategol, a allai gynnwys manylion a dyddiadau digwyddiadau, ond ni fyddwch yn cael eich gwrthod os nad yw'r wybodaeth hon gennych.​

Byddwn yn edrych yn ofalus ar bob achos. 

Os oes risg i’ch diogelwch personol chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, ffoniwch yr heddlu ar 999 ar unwaith.

Gadael eich cartref ar unwaith


Os ydych chi’n credu eich bod mewn perygl, cofiwch ddeialu 999 a gofyn am yr heddlu.









Os oes angen i chi adael eich cartref i aros yn ddiogel, ceisiwch siarad  â RISE Caerdydd​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newyddswyddog digartref neu swyddog tenantiaeth (os ydych chi'n denant cyfredol gyda Chyngor Caerdydd neu Gymdeithas Tai) cyn ichi adael.

Ewch â rhai pethau hanfodol gyda chi fel dillad, pethau ymolchi ac unrhyw feddyginiaeth yr ydych yn eu cymryd yn rheolaidd. Os gallwch ddod o hyd i ffordd ddiogel, ceisiwch fynd ag eitemau pwysig gyda chi fel eich pasbort, cardiau banc a chredyd a'ch ffôn symudol.

Peidiwch â gwneud penderfyniad i ildio'ch hawliau cyfreithiol i'ch cartref yn barhaol nes eich bod wedi siarad ag ymgynghorydd ac wedi ystyried eich holl opsiynau.​
© 2022 Cyngor Caerdydd