Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Benthyciad Gwella Cartrefi

Diben y cynllun, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw cynnig benthyciadau di-log i helpu perchen-feddianwyr cymwys i gadw eu heiddo’n gynnes, sych a diogel.
 
Caiff y benthyciad ei roi trwy osod tâl gydol oes ar eiddo a gaiff ei adennill pan waredir yr eiddo.  Uchafswm benthyciad £25,000. Cyflwynir y benthyciad trwy osod tâl amser bywyd ar eiddo a fydd yn cael ei adfer pan waredir yr eiddo. Uchafswm y benthyciad yw £ 25,000.

Codir ffi weinyddol o 15% ar bob cais a fydd yn talu costau’r Awdurdod Lleol i weinyddu’r benthyciad. Ychwanegir y ffi hon at y tâl eiddo.  Bydd angen i’r holl ymgeiswyr fodloni’r meini prawf cymhwyso.
 

 

Meini Prawf Cymhwyso

 
Gydag adnoddau yn brin, nid yw’n bosibl cynnig cymorth i bob perchen-feddiannydd yng Nghaerdydd.  Yn unol â blaenoriaethau’r Cyngor, bydd cymorth ariannol yn cael ei anelu at Bobl Hŷn. Fodd bynnag, bydd gan rai pobl hŷn sy’n perthyn i'r grŵp hwn ddigon o fodd i dalu am wneud gwaith ar eu heiddo eu hunain, un ai drwy incwm neu gyfalaf yn eu cartrefi.  Felly, bydd cymorth ariannol yn cael ei anelu tuag at y rheiny sydd mewn eiddo llai o werth ar incwm isel.   


I fod yn gymwys rhaid i’r eiddo: 

  • fod wedi’i gofrestru â'r Gofrestrfa Tir yn enw’r ymgeisydd.
  • fod ym Mand A - D y Dreth Gyngor 
  • fod o leiaf 10 mlwydd oed 
  • Fod mewn cyflwr adfeiliedig


Rhaid i chi:

  • fod dros 65 oed 
  • yn derbyn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd
  • yn berchen-feddiannydd yr eiddo
  • wedi bod yn byw yn yr eiddo sy’n unig gartref i chi ers 3 blynedd cyn cyflwyno’r cais
  • fod ag ecwiti yn yr eiddo
  • fod â llai na £16k mewn cynilon 
  • Ni fydd y cyfanswm a fenthycir yn fwy na 80% o werth yr eiddo – heb gynnwys benthyciadau sy’n ddyledus
  • Nid fyddwch wedi cael grant atgyweirio yn ystod y 5 mlynedd diwethaf



Cysylltwch â’r Tîm Byw’n Annibynnol i gael rhagor o wybodaeth. 

Cysylltu â ni



02920 537380

 

 
​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd