Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Tai gwarchod

Mae’r math hwn o lety fel arfer yn cynnwys fflatiau ag un neu ddwy ystafell (ar y llawr daear neu’r llawr cyntaf) neu fyngalos.


 

Er bod yr eiddo unigol yn hunangynhwysol, mae gan y rhan fwyaf o gynlluniau gyfleusterau cymunedol megis lolfa, ystafell golchi dillad, gardd a chyfleusterau storio a thrydanu sgwteri symudedd.


 

Mae larymau cymunedol sy’n cynnig gwasanaeth ymateb brys 24 awr y dydd wedi’u gosod ym mhob cynllun tai gwarchod yng Nghaerdydd.


 

Mae gan y rhan fwyaf o gynlluniau reolwr sydd ar gael yn ystod oriau swyddfa i helpu â phroblemau a materion o ddydd i ddydd.

 

Mae’r rheolwr hefyd yn gyfrifol am drefnu gwasanaethau ar y safle (megis ymweliadau gan drinwyr gwallt symudol) a gweithgareddau (megis boreau coffi, ymweliadau a dosbarthiadau).


 

Dewch o hyd i dai gwarchod yn eich ardal​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd drwy’r wefan Housing Care.

 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dai gwarchod ar wefan Tai Caerdydd​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

 

Mae cyngor a gwybodaeth am hyn ac opsiynau tai eraill ar gael hefyd ar wefan Age Cymru​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

© 2022 Cyngor Caerdydd