Mae Cyngor Caerdydd wedi gweithredu rhaglen ddatblygu gyffrous ac uchelgeisiol fydd yn darparu dros 4,000 o gartrefi newydd yn y tymor hwy ar draws y ddinas. Bydd o leiaf 2,800 o'r cartrefi newydd yn gartrefi cyngor.
Mae ein rhaglen benigamp ni yn un o’r rhaglenni adeiladu tai cyngor mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd, a bydd tua £950m yn cael ei fuddsoddi yn y gwaith o adeiladu tai fforddiadwy ar raddfa ac yn gyflym.
Bydd ein rhaglen yn adeiladu ystod eang o gartrefi newydd ar gyfer pob math o drigolion, gan sicrhau ein bod yn dechrau 'llenwi'r bylchau' ac yn mynd i'r afael â'r angen am dai. Byddwn yn darparu cartrefi y mae mawr eu hangen yn yr ardaloedd cywir yn agos at wasanaethau a chyfleusterau. Rydym yn gwneud hyn er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau penodol iawn sy'n ein hwynebu yn y ddinas.
Rhaid i'n holl ddatblygiadau newydd gydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygu 2021: Creu Cartrefi a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru. Rydyn ni’n rhannu'r weledigaeth ar gyfer adeiladu cartrefi cynaliadwy ac addasadwy o ansawdd uchel a chreu mannau awyr agored deniadol drwy greu lleoedd rhagorol.
Rydyn ni hefyd yn cynnig cartrefi sydd ar werth i brynwyr tro cyntaf trwy ein
Cynllun Cartrefi Cyntaf CaerdyddDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd, ar sawl un o'n safleoedd blaenllaw, yn ogystal ar safleoedd datblygu eraill ar draws Caerdydd gyfan a adeiladwyd gan adeiladwyr tai eraill. Rhaid i brynwyr fod yn brynwyr tro cyntaf a byw a/neu weithio yng Nghaerdydd i fod yn gymwys, a bydd fel arfer yn prynu cyfran ecwiti o 70% o’r eiddo.