Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwneud cais am dŷ

Rydym yn gweithio gyda’r prif Gymdeithasau Tai yng Nghaerdydd i helpu pobl i ddod o hyd i dai fforddiadwy yn y ddinas. Mae gennym restr aros gyffredin ar gyfer eiddo’r cyngor a chymdeithasau tai, ond rydym yn cynnig cyngor ar opsiynau eraill hefyd.

 

Datblygwyd gwefan Tai Caerdydd​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd i’ch helpu i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i chi.

 ​

Mae’r wefan yn esbonio sut mae’r rhestr aros yn gweithio ac yn dweud wrthych sawl eiddo a osodwyd ym mhob ardal o’r ddinas y llynedd. Bydd hyn yn eich helpu i wybod pa mor debygol ydyw y cewch gynnig eiddo yn yr ardal a ddewiswyd gennych.


 

Mae’r safle’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol hefyd:

  • rhentu preifat,
  • cynlluniau perchentyaeth â chymorth.

 

Sut i wneud cais


 

I wneud cais ar-lein, ewch i'r porthol tai ar-lein

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am dŷ, cysylltwch â'r Tîm Rhestr Aros Tai drwy ffonio 029 2053 7111 (opsiwn 1).



Pwy all wneud cais?

 

Gall unrhyw un 16 oed neu hŷn wneud cais am dai yng Nghaerdydd.  Mae’n bosibl na chaniateir i rai ymgeiswyr fod ar y rhestr aros oherwydd:

 

  • ymddygiad gwrthgymdeithasol,
  • statws mewnfudo,
  • rhai collfarnau troseddol penodol.

 


 

Rydym yn cynnig cyngor ar dai i bob ymgeisydd i’ch helpu i benderfynu p’un ai gwneud cais i ymuno â’r rhestr aros gyffredin yw’r opsiwn gorau, a ph’un a ydych yn debygol o gael cynnig eiddo yn y dyfodol agos.

 

 

Ein Cynllun Dyrannu Tai

 

Mae nifer gyfyngedig o dai ar gael i’w rhentu, felly mae gennym gyfres o reolau i’n helpu i benderfynu i bwy y dylem gynnig y tai hyn. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn helpu’r bobl sydd â’r angen mwyaf o ran tai yn gyntaf. Mae hefyd yn sicrhau bod dewis gan ymgeiswyr ynghylch ble maent eisiau byw.


 

Lawrlwythwch gwybodaeth ar Sut ydym yn gosod ein cartrefi (130kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


Lawrlwythwch Cynllun Dyrannu Tai Caerdydd (412kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


 


 

Mentrau Gosod Tai’n Lleol

Rydym hefyd yn defnyddio rheolau fymryn yn wahanol, o’r enw ‘Mentrau Gosod Tai’n Lleol’, lle mae angen i ni ddelio â phroblemau mewn ardal benodol. 

 

​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd