Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cymorth ariannol

​Mae llawer o wahanol gynlluniau a chynigion ar gael i helpu pobl hŷn ac anabl. 

Help gyda chostau gwresogi a chyfleustodau eraill


Taliadau Tanwydd Gaeaf​​​​​​​​​​​​​​​


Taliadau Tanwydd Gaeaf​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Gallech gael rhwng £100 a £300 yn ddi-dreth i helpu i dalu am eich costau gwresogi os cawsoch eich geni cyn neu ar ôl 5 Ionawr 1953.  

Fel arfer caiff y taliadau hyn eu gwneud yn awtomataidd, ond efallai y bydd rhaid i rai pobl wneud cais amdanynt.


 

Taliad Tywydd Oer​



Mae'n bosib y cewch Daliad Tywydd Oer os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau. Cewch daliad os yw’r tymheredd yn eich ardal yn cael ei gofnodi yn, neu’n argoeli bod, yn 0°C neu'n is am 7 diwrnod yn olynol.

Fel arfer caiff y taliadau hyn eu gwneud yn awtomataidd, ond efallai y bydd rhaid i rai pobl wneud cais amdanynt.


Hel​p gan eich darparwr ynni​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​



Efallai y byddwch yn gymwys i gael help ychwanegol gan eich darparwr ynni os ydych yn perthyn i un o’r grwpiau canlynol:

  • ​Oedran pensiwn
  • Anabl
  • Yn deulu sy’n byw ar incwm isel
  • Byw â chyflyrau iechyd hirdymor
  • Byw ar fudd-daliadau

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys i gael help, ewch i Hyb y Llyfrgell Ganolog a siaradwch ag un o’n hymgynghorwyr cyfeillgar, neu cysylltwch â Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes ar 0800 33 66 99.


Cronfa Cymorth Dewisol​​



Mae’r gronfa hon wedi disodli Grantiau Gofal Cymunedol neu Fenthyciadau Argyfwng. Diben Taliadau Cymorth Annibynnol yw galluogi pobl sy'n agored i niwed fyw yn annibynnol. Diben Taliadau Cymorth Argyfwng yw helpu pobl yn dilyn argyfwng neu drychineb.  


Trafnidiaeth 


Bysus


Mae pàs bws ar gael i chi​ os ydych yn byw yng Nghaerdydd ac yn chwe deg oed a throsodd i deithio am ddim ar fysus lleol ledled Cymru. Os ydych yn anabl, efallai y byddwch yn gymwys i gael pàs bws i chi eich hun ac ar gyfer cydymaith os na allwch deithio ar fws ar eich pen eich hun.

Trenau


Rydych yn gymwys i gael Cerdyn Rheilffordd Pobl Hŷn​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd os ydych yn 60 oed neu drosodd. Bydd eich Cerdyn Rheilffordd yn eich galluogi i arbed 1/3 oddi ar gost amrywiaeth eang o docynnau.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Cerdyn Rheilffordd Pobl Anabl​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd os yw eich anabledd yn golygu bod teithio ar y trên yn anodd i chi. Bydd eich Cerdyn Rheilffordd yn eich galluogi i arbed 1/3 oddi ar gost amrywiaeth eang o docynnau.


Adloniant


Trwydded Deledu


Os ydych yn 74 oed ar hyn o bryd a bod ein trwydded ar fin dod i ben, gallwch brynu trwydded teledu byrdymor i’w ddefnyddio tan eich pen-blwydd yn 75 oed. Pan fyddwch yn 75 oed, gallwch wedyn wneud cais am Drwydded Deledu am ddim​​​​​​​​​​​​​​ i bobl dros 75 oed.

Os ydych yn ddall neu â nam difrifol ar eich golwg a’ch bod yn gallu profi hynny, rydych yn gymwys i wneud cais am gonsesiwn o 50%. Bydd eich trwydded hefyd yn cynnwys unrhyw un sy’n byw gyda chi.


Sinemâu a Theatrau


Mae tocynnau sinema yn aml iawn yn rhatach yn ystod y dydd neu ar noson benodol.  Efallai y codir tâl is arnoch os ydych dros 60 oed.  Mae'n bosib bod gan theatrau ddisgownt ar gyfer pobl dros 60 oed hefyd.

Siopa


Os ydych dros 60 oed, mae rhai siopau, yn enwedig siopau gwaith y cartref a chanolfannau garddio, yn cynnig manteision arbennig fel pwyntiau teyrngarwch neu ddisgownt ar ddiwrnodau penodol.

Tafarndai a Bwytai


Yn lleol bydd llawer o dafarndai yn cynnig ‘cinio i’r henoed' neu rywbeth tebyg ar gyfer pobl hŷn.   Efallai y bydd bwytai yn cynnig disgownt ar adegau penodol, ac maent weithiau yn cynnig bwydlen gyfyngedig ar gyfer y cynlluniau hyn. 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni


Llun – Iau: 8.30am i 5pm
Dydd Gwener:  8.30am i 4.30pm
© 2022 Cyngor Caerdydd