Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Beth yw Gwasanaethau Byw yn Annibynnol

​​​​Mae Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn gweithredu fel pwynt cyswllt sengl i oedolion, gan ganolbwyntio a​r yr henoed a phobl anabl.   Gallwn ni eich helpu i fanteisio ar amrywiaeth eang o wasanaethau a rhoi cymorth i chi fyw mor annibynnol â phosibl.

Efallai y byddwn yn darparu gwasanaeth ymweld i roi help a chyngor ar fudd-daliadau i'ch helpu i wneud y gorau o'ch incwm.  Gallwn hefyd eich helpu i leihau eich costau drwy roi cyngor i chi ar sut i wneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon a rhoi gwybod i chi am unrhyw grantiau neu ddisgowntiau y gallwch fod yn gymwys i’w hawlio.  

Os ydych yn ei chael yn anodd cyflawni tasgau bob dydd a gofalu amdanoch eich hunain,  gallai mân addasiadau neu gyfarpar newydd wneud gwahaniaeth mawr.  Gallwn ni gysylltu â gwasanaethau eraill ar eich rhan a chydlynu â hwy i sicrhau bod unrhyw newidiadau yn cael eu teilwra i ddiwallu eich anghenion chi.

A gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau lleol sy’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol, tripiau, clybiau cinio a llawer mwy.  Gallwn hefyd gynnig cymorth a chyngor os ydych yn ei chael yn anodd paratoi eich prydau a bwyta’n iach.   

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.


​​



029 20 234 234

Llun – Iau: 8.30am i 5pm
Dydd Gwener: 8.30am i 4.30pm
​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd