Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cymorth i denantiaid

Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth wedi’u teilwra i deuluoedd ac unigolion i’w helpu i oresgyn problemau er mwyn cynnal a chadw eu llety a byw yn annibynnol. 


Gellir darparu cymorth i helpu gyda materion sy’n gysylltiedig â thai neu i helpu wrth sefydlu tenantiaeth newydd. 


Darperir cymorth mewn meysydd megis:  


  • ​datrys ôl-ddyledion a dyledion
  • bygythiad neu risg o golli tenantiaeth 
  • dechrau tenantiaeth newydd 
  • cyngor ar gyllidebu 
  • materion yn ymwneud â bod yn agored i niwed 
  • gallu i ymdopi â materion tenantiaeth 
  • magu hyder 
  • iechyd a diogelwch cyffredinol yn y cartref 
  • cysylltu cyfleustodau 
  • cael cymorth gan asiantaethau eraill

A ydw i’n gymwys? 

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, mae’n rhaid eich bod chi: 


  • ​yn 16 oed neu’n hŷn,
  • yn byw yng Nghaerdydd, a 
  • naill ai mewn perygl o golli eich llety, ar fin dechrau tenantiaeth, neu â’r posibilrwydd o fod yn ddigartref.

​Er mwyn gallu cael y gwasanaeth, mae’n rhaid i’r unigolyn fod yn agored i niwed ac yn wynebu rhwystr penodol sy’n ei rwystro rhag cael mynediad at wasanaethau cyngor a chymorth.

Pwy all atgyfeirio? 


Os bydd ar berson angen cymorth ynghylch tai mae’n rhaid iddo gael ei atgyfeirio gan weithiwr proffesiynol megis gweithiwr cymdeithasol, swyddog tai neu weithiwr iechyd proffesiynol. Gall atgyfeiriad gael ei wneud gan Swyddog Hyb y Cyngor. Ni allwch eich atgyfeirio eich hun. 


Hefyd mae’n rhaid i’r unigolyn fod yn ymwybodol bod aygyfeiriad yn cael ei wneud a bod cymorth yn cael ei geisio ar ei ran. Mae’n rhaid iddo roi ei ganiatâd a bod yn fodlon ymgysylltu â’r cymorth. 


Sut mae’r cynllun yn gweithio? 


Bydd angen llenwi ffurflen atgyfeirio, gan roi manylion llawn anghenion y cleient.  Os bydd yn bodloni’r meini prawf, gwneir asesiad gan sefydliad darparu cymorth profiadol. 


Os gall y cynllun helpu caiff gweithiwr cymorth ei benodi i gynorthwyo’r cleient ac felly gyda’i gilydd gallant fynd i’r afael ag anghenion cymorth tai y person.



I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:


029 2053 7342


E-bost: TimCymorthAnwadal@caerdydd.gov.uk


Ffacs: 029 2053 7386


Neu ewch i unrhyw Hyb​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd