Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyflwyniad i Safon Ansawdd Tai Cymru

​​​​​​​Mae’r SATC yn deillio o’r Strategaeth Tai Genedlaethol i Gymru ‘Cartrefi Gwell i Bobl Cymru’. Datblygwyd y safon gan Lywodraeth Cymru i ddarparu targed safon cyffredin ar gyfer cyflwr yr holl dai yng Nghymru.



Mae Safon Ansawdd Tai Cymru yn dweud y dylai fod gan bob aelwyd y cyfle i fyw mewn cartrefi o ansawdd da sydd: 

  • Mewn cyflwr da.
  • Yn ddiogel.
  • Wedi’u gwresogi’n ddigonol, yn effeithiol o ran tanwydd ac wedi’u hinswleiddio’n dda.
  • Yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern
  • Wedi’u rheoli’n dda.
  • Wedi’u lleoli mewn amgylcheddau deniadol a diogel.
  • Yn bodloni gofynion penodol y cartref cyn belled ag y bo modd, (e.e. anableddau penodol).

 

Ym mis Medi 2012 Caerdydd oedd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediad SATC llawn. 
 

Gweler canllaw SATC ar wefan llyw.cymru​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

 ​



Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Rydym wrthi’n cyfieithu’r wybodaeth a byddwn yn diweddaru’r dudalen cyn gynted â phosib.
Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
​​


Cynnal Safon Ansawdd Tai Cymru

Nawr fod Caerdydd wedi cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru mae’n bwysig sicrhau bod y safon yn cael ei gynnal a buddsoddiad yn cael ei gynllunio ar sail hynny.  Bydd lefel yr union fuddsoddiad sydd ei angen yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac o ganlyniad bydd rhaid addasu rhaglenni gwaith manwl yn flynyddol. 


 

Mae nifer o fethiannau derbyniol gennym (yn bennaf yn sgil Dewis Preswylwyr) ac rydym wedi rhoi mesurau ar waith er mwyn gallu ail ymweld a chyflawni’r Safon orau y gallwn. Rydym yn adolygu’r safon pan fo eiddo yn dod yn wag ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Cyfranogi Tenantiaid i alluogi tenantiaid nad sydd wedi derbyn gwaith SATC neu sydd wedi newid eu meddyliau i gysylltu â ni.

Cyllido Safon Ansawdd Tai Cymru

Mae’r ariannu yn gyfuniad o incwm rhent tai cyngor, arian benthyg (benthyg darbodus) a’r Grant Lwfans Atgyweirio Sylweddol (LAS) gan Lywodraeth Cymru.


Yn 2022/23 caiff Caerdydd £9.5m gan Lywodraeth Cymru a gaiff ei wario ar gynlluniau gwella SATC​.

Yn 2022/23 bydd Cyngor Dinas Caerdydd yn gwario dros £19m ar welliannau SATC. ​​​​

Welsh Government Logo​​

© 2022 Cyngor Caerdydd