Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Yswiriant cynnwys y cartref

​​​​​​​​Pan fyddwch yn rhentu gennym ni, nid yw eich taliad rhent yn cynnwys yswiriant.

Dylech ystyried beth byddai polisi yswiriant cynnwys cartref yn ei gynnwys ar eich cyfer chi, fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a oes angen un arnoch.

Mae yswiriant cynnwys wedi'i gynllunio i helpu i ddiogelu eich eiddo. Ni waeth pa mor ofalus ydych chi, mae perygl bob amser y gallai eich eiddo gael ei dorri, ei ddifrodi neu ei ddwyn.

Ynglŷn â'r Cynllun Yswiriant Cynnwys y Cartref

Mae'r Cynllun Yswiriant Cynnwys y Cartref yn gynllun yswiriant arbenigol ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol. Mae tenantiaid Cyngor Caerdydd yn gymwys i wneud cais am y cynllun. Fodd bynnag, ni fyddwch yn gymwys i wneud cais os ydych yn rhentu llety dros dro neu eiddo wedi'i ddodrefnu.

Gall y cynllun gynnig yswiriant i chi ar gyfer cynnwys eich cartref. Dyma rai mathau o eitemau a fyddai'n cael eu cynnwys:
  • Dodrefn
  • Carpedi
  • Llenni
  • Dillad
  • Dillad Gwely 
  • Eitemau trydanol
  • Gemwaith 
  • Lluniau
  • Addurniadau 
 
Mae'r yswiriant yn amodol ar y telerau, amodau, cyfyngiadau a gwaharddiadau sydd wedi'u cynnwys yn Llyfryn Polisi'r Cynllun Yswiriant Cynnwys y Cartref. Mae Thistle wedi cysylltu ag un yswiriwr Aviva Insurance Limited i ddarparu'r yswiriant hwn.
 
Os nad ydych yn siŵr a yw'r polisi yswiriant hwn yn iawn i chi, cysylltwch â ni ar 029 2053 7382.

Buddion y cynllun

  • Dim tâl ychwanegol i’w dalu pe baech yn gwneud hawliad 
  • Mae lladrad, difrod dŵr, tân a risgiau eraill y cartref wedi eu cynnwys.
  • Mae gwelliannau tenantiaid wedi’u cynnwys. Mae hyn yn cynnwys hyd at £2000 neu 20% o'r swm sydd wedi'i yswirio, pa un bynnag sydd fwyaf.
  • Mae lladrad neu ymgais i ladrata cynnwys mewn siediau, adeiladau allanol a garejys wedi’u cynnwys. Mae hyn hyd at £2000.
  • Mae difrod i wydredd allanol wedi’i gynnwys.
  • Mae newid cloeon a gosod cloeon newydd ar gyfer drysau  allanol a larymau os yw allweddi'n cael eu colli neu eu dwyn wedi’u cynnwys.
  • Nid oes angen i chi gael cloeon drws neu ffenestr arbennig, dim ond drws ffrynt y gellir ei gloi.

Faint fydd y cynllun yn ei gostio

  • Mae’r premiymau’n dechrau o 74c yr wythnos ar gyfer tenantiaid dan 60 oed am yswiriant gwerth £8,000.
  • Mae’r premiymau’n dechrau o 56c yr wythnos ar gyfer tenantiaid dan 25 neu’n 60 ac yn hŷn am yswiriant werth £6,000.
 
Mae yswiriant niwed damweiniol estynedig ar gael am bremiwm ychwanegol. Darllenwch y pecyn cais i gael rhagor o wybodaeth.

Sut i wneud cais

Os hoffech wneud cais gallwch lenwi ffurflen gais:
 
Os hoffech chi ofyn am becyn cais, cysylltwch â ni ar 029 2053 7382.

Cyn cwblhau cais, darllenwch Lyfrynnau Gwybodaeth Bwysig i Gwsmeriaid a Pholisi Cynllun Yswiriant Cynnwys y Cartref.
 

Sylwer: Trefnir y polisi yswiriant a ddarparwn ar sail nad yw'n cael ei argymell. Byddwch yn cael gwybodaeth allweddol fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch pa yswiriant sydd orau i chi.


Beth i’w wneud os oes gennych gŵyn

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, dylech ddilyn y weithdrefn gwyno ar gyfer y Gwasanaethau Yswiriant Thistle. Mae'r ddogfen hon yn esbonio sut y gallwch gyflwyno cwyn i Wasanaethau Yswiriant Thistle.

 
Os hoffech gwyno i'r cyngor, gallwch fynd i’n tudalen sylwadau, cwynion a chanmoliaethau.​

Mae Thistle Tenant Risks yn arddull fasnachu o Thistle Insurance Services Limited.  Mae Thistle Insurance Services Limited wedi'i awdurdodi a'i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol FRN 310419. Cofrestrwyd yn Lloegr o dan Rhif 00338645. Swyddfa Gofrestredig: Parc Busnes Rossington, West Carr Road, Retford, Swydd Nottingham, DN22 7SW. Mae Thistle Insurance Services Ltd yn rhan o'r Grŵp PIB.





© 2022 Cyngor Caerdydd