Mae Ysbrydoli i Weithio yn broject newydd cyffrous i bobl ifanc yng Nghaerdydd, wedi’i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae Ysbrydoli i Weithio yn wasanaeth gwirfoddol sy’n helpu pobl ifanc sy’n byw mewn codau post y tu allan i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf y mae angen cymorth ychwanegol arnynt i ddod o hyd i waith, symud i hyfforddiant neu addysg bellach.
Mae Mentoriaid Ieuenctid profiadol yn arbenigo mewn helpu unigolion gyda’u cyflogaeth a’u gyrfaoedd. Mae cyllid hefyd ar gael ar gyfer cyrsiau hyfforddiant i wella sgiliau a rhoi’r cyfle gorau i bobl ifanc ddod o hyd i gyflogaeth.
Ar gyfer pwy mae'r project?
- Pobl ifanc 16-24 oed
- Pobl sy’n byw mewn Cod Post y tu allan i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf
- Pobl nad ydynt mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant
Sut gall y project helpu?
Gall ein tîm o Fentoriaid Ieuenctid gynnig cymorth a chyngor arbenigol ar:
- Ysgrifennu CV
- Technegau Cyfweld
- Adeiladu Hyder, Ysgogi a Hunan-barch
- Ceisiadau Swydd a chwilio am waith
- Lleoliadau Gwaith a Chyfleoedd Gwirfoddoli
Hyfforddiant
Gall y project dalu am amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddi. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch
- Cerdyn CSCS (Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu)
- PTS (Diogelwch Personol ar y Rheilffyrdd)
- Cynorthwy-ydd Addysgu
- Gofal Plant
- Hyfforddiant fforc godi / HGV / LGV gyda Thrwydded
Cymorth Ariannol
Gallai fod cyllid ar gael i helpu gyda’r canlynol hefyd:
- Costau Gofal Plant (ar gyfer cyfweliadau a hyfforddiant)
- Costau Teithio (ar gyfer cyfweliadau a hyfforddiant)
- Dillad Cyfweliad
- Offer Diogelwch Personol
- Gwersi Gyrru
I gael rhagor o wybodaeth neu i gadarnhau a ydych yn gymwys ar gyfer y project, cysylltwch â ni:
Lawrlwythwch boster hyrwyddo Ysbrydoli i Weithio (804kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Lawrlwythwch wybodaeth ychwanegol ar y cynllun Ysbrydoli i Weithio (282kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd .
Ariannwyd y project hwn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
