Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ailgylchu eich podiau coffi gyda Podback

​​​​​​​Rydym yn gweithio gyda Podback i ddarparu gwasanaeth ailgylchu am ddim i ailgylchu eich podiau coffi, te, a siocled poeth gartref. 

Ni ddylai bagiau Podback gael eu rhoi allan i’w casglu gyda’ch gwastraff cartref arferol.

​​Byddwch yn derbyn dyddiad casglu ar ôl i ni dderbyn eich cais.

Cofrestru gyfer Podback

Cofrestrwch ac archebu eich bagiau ailgylchu am ddim gan Podback. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar-lein i greu eich cyfrif Podback personol. 

Bydd Podback yn anfon dau rolyn o fagiau atoch ar gyfer ailgylchu eich podiau coffi alwminiwm neu blastig ynghyd â chyfarwyddiadau.


Pan fydd angen mwy o fagiau ailgylchu arnoch, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif Podback i ail-archebu.

Cofrestru ar gyfer Podback.

Gofyn i ni gasglu eich podiau


Bydd Podback yn anfon y bagiau atoch chi.  Llenwch nhw os gwelwch yn dda yn unol â’r cyfarwyddiadau.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni bob tro rydych chi eisiau casgliad pod.

Gwnewch gais am gasgliad pod
​​

Beth i'​w wneud ar eich dyddiad casglu


Byddwn yn c​ysylltu â chi gyda dyddiad casglu.  Rhowch eich bagiau ar y palmant erbyn 7am ar y dyddiad hwnnw. 

Bydd gwybodaeth yn yr e-bost am sut i adrodd am gasgliadau a gollwyd. ​

Byddwn dim ond yn casglu podiau coffi sydd ym magiau ailgylchu Podback. Peidiwch â defnyddio unrhyw fath arall o fag.​

Y mathau o bodiau coffi y gallwch eu hailgylchu 


Gallwch ailgylchu podiau plastig ac alwminiwm ar gyfer coffi, te, siocled poeth, a llaeth.

Pan fyddwch yn cofrestru ar wefan Podback, gofynnir i chi pa frand o bodiau rydych yn ei ddefnyddio fel eich bod yn cael y bag cywir. Os ydych yn defnyddio podiau alwminiwm, bydd bagiau gwyn yn cael eu hanfon atoch. Os ydych yn defnyddio podiau plastig, bydd bagiau gwyrdd yn cael eu hanfon atoch. 

Mae angen casglu'r ddau ddeunydd ar wahân gan y cânt eu hanfon​ i gyfleusterau ailgylchu gwahanol.

Beth i'w wneud os ydych yn byw mewn fflat







Os ydych yn byw mewn fflat neu eiddo cymunedol gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth gollwng, sy'n eich galluogi i ollwng bagiau wedi'u llenwi drwy rwydwaith Yodel. 

Sut mae'r podiau'n cael eu hailgylchu


Mae'r podiau coffi rydych yn eu hailgylchu gyda Podback yn mynd i safleoedd ailbrosesu alwminiwm a phlastig arbenigol yn y DU. 

Mae'r gwaddodion coffi'n cael eu tynnu, ac yna mae'r plastig a’r alwminiwm yn cael eu trawsnewid yn gynnyrch newydd, gan gynnwys caniau diodydd, cydrannau ceir neu ddodrefn gardd plastig a chynhyrchion adeiladu. 

Mae’r gwaddodion coffi yn cael eu defnyddio i wella ansawdd pridd ac i greu ynni adnewyddadwy (bio-nwy). 

© 2022 Cyngor Caerdydd